Mynd i'r prif gynnwys

Dysgu ar gyfer Gofalwyr yn y Brifysgol Agored

Diweddarwyd Dydd Llun, 8 Ebrill 2024

Mae'r dudalen hon yn cynnwys y rhaglen 'Dysgu ar gyfer Gofalwyr yn y Brifysgol Agored', a ddatblygwyd mewn cydweithrediad â Chanolfan Gofalwyr Tower Hamlets, ac yn rhoi manylion am y prosiect i ofalwyr a chanolfannau gofalwyr.

Dysgwch fwy am gyrsiau a chymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Y Brifysgol Agored.

Pam gofalwyr?

Poblogaeth gynyddol hŷn, gwelliannau yn rhychwant oes bywyd plant ac oedolion sydd ag anableddau gydol oes; gostyngiad mewn gwariant ar wasanaethau cyhoeddus: dyma ddim ond rhai o'r rhesymau pam mae nifer y gofalwyr teuluol yn tyfu a pham y bydd yn parhau i wneud hynny.  Yn 2021, amcangyfrifwyd bod 10.5 miliwn o ofalwyr yn y DU ac o leiaf 647 miliwn o ofalwyr ledled y byd. Yn wir, amcangyfrifir erbyn hyn y bydd o leiaf 60% o oedolion y DU yn dod yn ofalwyr teuluol ar ryw adeg yn eu bywydau (Milne a Larkin, 2023). Gall gymryd hyd at ddwy flynedd i unigolyn uniaethu fel gofalwr, sy’n cael ei ddiffinio fel:

Gofalwr yw unrhyw un, gan gynnwys plant ac oedolion, sy'n gofalu am aelod o'r teulu, cymar neu ffrind sydd angen help oherwydd eu salwch, eiddilwch, anabledd, problem iechyd meddwl neu ddibyniaeth ac yn methu ymdopi heb eu cymorth. Mae'r gofal y maent yn ei roi yn ddi-dâl.

                                                (Y Gyfarwyddiaeth Feddygol a’r Gyfarwyddiaeth Nyrsio, 2014)                          

Er bod yna ddeilliannau cadarnhaol i ofalu, mae llawer o dystiolaeth o ddeilliannau negyddol ar iechyd corfforol a meddyliol, cyllid, cydberthnasau a bywyd cymdeithasol. Mae gofalu hefyd yn effeithio ar addysg a chyflogaeth.

Pam mae dysgu yn bwysig i ofalwyr?

Mae gofalwyr yn aml yn digalonni neu’n anobeithio wrth feddwl am gael gafael ar gyfleoedd dysgu. Fodd bynnag, mae ymchwil gan y Brifysgol Agored wedi dangos, er gwaethaf yr heriau y maen nhw’n eu hwynebu, bod gofalwyr yn dweud bod astudio yn gwella eu llesiant, yn rhoi cyfleoedd iddyn nhw wella eu bywydau mewn ffyrdd na fyddai ar gael iddyn nhw fel arall ac yn eu galluogi i gael bywyd ochr yn ochr â'u rôl fel gofalwr. Amlinellir manteision eraill astudio yn Ffigur 1 fel y nodwyd mewn ymchwil gan y Brifysgol Agored (Kubiak et al., 2021).


Diagram yn dangos pam y dylech chi astudioFfigur 1: Manteision astudio gyda’r Brifysgol Agored i ofalwyr



Mae'r manteision hyn hefyd yn gysylltiedig â gwella llesiant. Mae Pum Ffordd at Les y Sefydliad Economeg Newydd (Aked a Thompson, 2011) yn Ffigur 2 yn fodel o gamau gweithredu allweddol sy'n gwneud lles i ni.  Mae'n tynnu sylw at sut mae astudio gyda’r Brifysgol Agored yn gwella llesiant oherwydd bod ganddo’r potensial i alluogi pobl i 'Dal ati i Ddysgu' a 'Chysylltu' gydag eraill.  


'Cysylltu', 'Bod yn fywiog, 'Bod yn sylwygar', 'Dal ati i ddysgu' a 'Rhoi'.
Ffigur 2: Pum Ffordd at Les


O ystyried y gall astudio gyda’r Brifysgol Agored fod o fudd i ofalwyr a gwella eu llesiant, mae’r Brifysgol Agored a Chanolfan Gofalwyr Tower Hamlets wedi datblygu rhaglen ddysgu ar y cyd i ofalwyr a'r rheini sy'n eu cefnogi – 'Dysgu ar gyfer gofalwyr yn y Brifysgol Agored'.

Drwy'r rhaglen ddysgu hon, mae gofalwyr yn cael y cyfle i ddysgu – i ddilyn hobi, ar gyfer datblygiad personol neu wella cyfleoedd cyflogaeth. Gall gofalwyr astudio ar eu pennau eu hunain neu gyda chyfoedion a pherthyn i gymuned o ddysgwyr, sy’n lleihau unigedd ac yn creu rhwydweithiau hanfodol ar gyfer eu llesiant.

Gall y gost a'r amser sy'n ofynnol (e.e., o ran gorfod mynychu sesiynau astudio wedi'u trefnu, ac amser i ffwrdd oddi wrth y rhai maen nhw’n gofalu amdanyn nhw) rwystro gofalwyr rhag dysgu. Mae'r defnydd o'r adnoddau addysgol hyblyg ac am ddim sydd ar gael gan OpenLearn arobryn y Brifysgol Agored yn lleihau'r rhwystrau hyn.


Cyfeiriadau

Aked, J. a Thompson, S. (2011) Five Ways to Wellbeing: New Applications, New Ways of Thinking, Llundain, y Sefydliad Economeg Newydd.

Kubiak, C., Mary Larkin, M., Tajinder, G., Deepak-Gopinath, M., Messenger, J. a Vseteckova, J. (2021) Developing ‘Good’ Support for Caring-Experienced Students: A Cross University Study, Milton Keynes: Y Brifysgol Agored.

Y Gyfarwyddaeth Feddygol a’r Gyfarwyddiaeth Nyrsio (2014) NHS England’s Commissioning for Carers: Principles and resources to support effective commissioning for adult and young carers [ar-lein] NHS England. Ar gael yn https://www.england.nhs.uk/commissioning/comm-carers/

Milne, A. and Larkin, M. (2023) Family Carers and Caring: What it’s all about. Llundain: Emerald Publishing Society now series


 

Cyflwyno rhaglen Dysgu ar gyfer Gofalwyr y Brifysgol Agored

 

Mae'r fideo isod yn eich cyflwyno i Tony Collins-Moore, Rheolwr Llesiant yng Nghanolfan Gofalwyr Tower Hamlets wrth iddo eich tywys drwy drosolwg o'r rhaglen.


Trawsgrifiad

Gallwch ddarllen rhagor am pam ddaeth Tony yn rhan o'r rhaglen yn yr erthygl gyntaf isod, ac yn yr ail erthygl gallwch glywed sut mae'r Brifysgol Agored yn cefnogi gofalwyr:

I gychwyn ar y rhaglen, ewch i'r gyfres o adnoddau prosiect yma sy'n cynnwys y 'Canllaw Dysgu i Ofalwyr' sy’n cael ei grybwyll yn y fideo, a deunyddiau cymorth ar gyfer staff/gweithwyr cymorth canolfannau gofalwr.

Ar ôl i chi ddarllen trwy'r deunyddiau cysylltiedig, byddwch yn barod i blymio i mewn i OpenLearn. Efallai eich bod chi'n gwybod ble hoffech chi ddechrau o ran meysydd pwnc, ond os nad ydych chi, dyma restru rhai a allai fod o ddiddordeb isod:would like to start in terms of topic areas but if you haven’t, we list a few below that might be of interest: 

Cyrsiau sy'n gysylltiedig â'ch rôl gofalu:

Cyrsiau sy'n ymwneud â chefnogi eich taith ddysgu: 

Cyrsiau sy'n gysylltiedig â'ch llesiant:

 


 

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

English

Awdur

Sgorau a Sylwadau

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gwybodaeth hawlfraint

Hepgor Graddau y Cwrs

Graddau y Cwrs

Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar ein cwestiynau cyffredin a all roi'r cymorth sydd ei angen arnoch chi.

Oes gennych chi gwestiwn?