Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Academi Arian MSE
Academi Arian MSE

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

9 Llunio eich cyllideb

Mae’n amser dechrau llunio eich cyllideb. Cyn gwneud hynny, gwyliwch y fideo byr yma sy’n nodi'r camau syml i'w cymryd.

Cafodd yr adnodd hwn ei greu a’i recordio’n wreiddiol yn Saesneg ar gyfer Academi Arian MSE ac mae ar gael yma.

Download this video clip.Video player: Fideo 2 Llunio eich cyllideb
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
Fideo 2 Llunio eich cyllideb
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Er bod angen i chi lunio cyllideb sy’n gweithio i chi, mae ambell reol bwysig y dylech chi feddwl amdanynt cyn dechrau.

  • Gwnewch yn siŵr bod y gorwel amser yn ddigon hir i gynnwys eich holl incwm a gwariant. Drwy weithio gyda chyllideb wythnosol neu fisol, gallech chi anghofio am wariant ar wyliau, anrhegion neu yswiriant blynyddol.
  • Dechreuwch eich cyllideb gyda’ch incwm cyn symud ymlaen at eich gwariant. Dim ond incwm sy’n sicr, neu’n debygol o leiaf, y dylech chi ei gynnwys. Drwy wneud hyn, mae unrhyw beth ychwanegol yn syrpréis neis.
  • Ewch ati i ddadansoddi eich gwariant i’r graddau mwyaf posibl. Bydd hyn yn eich helpu chi i weld ble yn union mae’ch arian yn mynd os ydych chi’n canfod bod angen i chi ffrwyno eich gwariant.
  • Os nad ydych chi’n siŵr faint bydd rhywbeth yn ei gostio (ee, eich bil ffôn), mae’n well goramcan a bod ag arian dros ben na thanamcan a bod heb ddigon o arian.
  • Rhannwch eich gwariant i’r categorïau ‘hanfodol’, ‘dymunol’ a ‘ddim yn hanfodol’ – yn yr un modd â’r gweithgaredd a wnaethoch chi yn yr adran flaenorol. Mae hyn yn eich helpu chi os oes angen i chi leihau eich gwariant, oherwydd gallwch chi ddechrau drwy wario llai ar bethau sydd ddim yn hanfodol.
  • Dylech gymryd gofal arbennig i asesu'ch costau ynni, gan ystyried y cymorth y gallwch ei gael o bosibl gan y Llywodraeth. Hyd yn oed gyda chymorth o'r fath, bydd biliau ynni defnyddwyr yn uwch nag mewn blynyddoedd blaenorol.
  • Ychwanegwch swm ar gyfer gwariant annisgwyl, ee, gwario ar ddisodli nwyddau sydd wedi torri yn y cartref. Mae cael cronfa argyfwng ar gyfer gwariant annisgwyl yn golygu bod dim angen i chi droi at fesurau munud olaf mewn panig (fel benthyca neu wario ar gerdyn credyd).

Mae’n gwneud synnwyr cael cyllideb flynyddol, ond ei ddadansoddi fesul mis hefyd.

Bydd y gyllideb flynyddol yn rhoi darlun lefel uchel o’ch cyllid i chi, ac yn dangos a ydych chi’n gwario mwy nag y gallwch chi ei fforddio yn ystod y flwyddyn (newyddion drwg!), neu’n gwario llai nag y gallwch chi ei fforddio sy’n golygu eich bod yn gallu cynilo rhywfaint (newyddion da!).

Bydd y gyllideb fisol yn eich helpu chi i reoli eich arian o ddydd i ddydd, gan ddangos a yw hwn yn fis lle rydych chi’n gwario’n drwm (ee, mis Rhagfyr, lle mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwario ar y Nadolig) neu’n fis lle rydych chi’n gwario llai (ee, mis Chwefror; mis byr lle dydy pobl ddim yn tueddu i fynd ar wyliau, dydy’r Dreth Gyngor ddim fel arfer yn daladwy, ac mae biliau'r Nadolig wedi cael eu talu). Bydd y cipluniau misol yma hefyd yn amlygu pryd bydd angen i chi ddefnyddio eich cynilion i gefnogi mis o wario trwm, neu roi arian mewn cynilion pan mae’r gwariant misol yn gymharol isel.