Y Crynwyr ym Mhrydain
Mae llawer o sefydliadau'n gweithio dros heddwch ac addysg heddwch yn y Deyrnas Unedig a thu hwnt. Mae’r Brifysgol Agored yn cydweithio â’r Crynwyr ym Mhrydain sy’n cyd-gadeirio’r Rhwydwaith Addysg Heddwch, casgliad o sefydliadau ac unigolion sy’n gweithio ym maes addysg heddwch, gyda Pax Christi. Mae’r Crynwyr yn cefnogi ffyrdd amgen o ddatrys gwrthdaro a diarfogi byd-eang. Maent yn credu bod addysg yn allweddol i greu byd tosturiol a heddychlon ac maent yn arloeswyr mewn addysg heddwch.
Mae Cymdeithas Grefyddol y Cyfeillion (y Crynwyr) yn grŵp ffydd radical sydd â’i wreiddiau yng Nghristnogaeth. Daeth i’r amlwg yng nghanol yr ail ganrif ar bymtheg fel grŵp heb offeiriadaeth ar wahân, a chyda math o addoliad wedi ei seilio ar dawelwch. Mae’n credu bod ‘yr hyn sy'n perthyn i Dduw i'w gael ym mhawb’. Mae hyn wedi ysbrydoli’r Crynwyr i wneud safiad clir dros heddwch a diffyg trais.
Yn 2022, cyhoeddodd y Crynwyr ym Mhrydain adroddiad Peace at the Heart : A relational approach to education in British schools, y mae’r cwrs hwn yn seiliedig arno.