Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Awdur

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Egwyddorion ac arferion addysg heddwch
Egwyddorion ac arferion addysg heddwch

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Cofrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Symud o gwmpas y cwrs

Yn yr adran ‘Crynodeb’ ar ddiwedd pob sesiwn, fe welwch chi ddolen i'r sesiwn nesaf. Os hoffech chi ddychwelyd i ddechrau'r cwrs ar unrhyw adeg, cliciwch ar ‘Disgrifiad llawn o’r cwrs’. O fan hyn, gallwch chi fynd i unrhyw ran o’r cwrs.

Os ydych chi’n dilyn dolen ar dudalen cwrs, mae’n arfer da ei hagor mewn tab neu ffenestr newydd. Drwy wneud hynny, gallwch chi fynd yn ôl i ble bynnag y daethoch chi ohono heb orfod defnyddio'r botwm ‘yn ôl’ ar eich porwr. Gallwch wneud hynny drwy ddal Ctrl [neu Cmd ar Mac] i lawr pan fyddwch chi’n clicio ar y ddolen.

Mae'n debyg y byddwch chi'n dymuno gwneud nodiadau wrth i chi fynd yn eich blaen, felly dewiswch y dull sydd orau gennych chi ar gyfer hyn, naill ai drwy ysgrifennu mewn llyfr nodiadau neu ar eich cyfrifiadur neu eich cyfrifiadur tabled. Mae opsiynau blwch ymateb rhydd ar gael yn rhai o’r gweithgareddau. Sylwer: bydd unrhyw beth y byddwch yn ei ychwanegu at y blychau hyn yn cael ei gadw i chi ddychwelyd ato, cyn belled â’ch bod chi wedi mewngofnodi i OpenLearn ac wedi cofrestru ar gyfer y cwrs. Ond dim ond chi sy’n gallu gweld yr wybodaeth sy’n cael ei chadw, ac ni all neb arall ei gweld. Gallwch gasglu a llwytho i lawr eich holl atebion a nodiadau ar gyfer y cwrs drwy glicio ar y dewis Llwytho eich atebion i lawr ar gyfer y dogfennau ar y cwrs hwn’, sydd yng ngholofn chwith y cwrs.

Mae gan y gweithgareddau amseroedd unigol, sef bras amcan o’r amser y gallai’r gweithgaredd ei gymryd. Os ydych chi’n gweithio drwy'r cwrs fel grŵp yn hytrach nag yn unigol, mae’n bosibl yr hoffech chi ystyried dyblu'r amseroedd a awgrymir, er mwyn rhoi digon o amser ar gyfer trafodaethau.

Bydd cofrestru ar y cwrs yn olrhain eich cynnydd ac yn rhoi cyfle i chi hawlio eich datganiad cymryd rhan OpenLearn. Nid yw datganiadau wedi eu hachredu gan y Brifysgol Agored ond maent yn ffordd dda o ddangos bod gennych chi ddiddordeb yn y pwnc a’ch bod chi wedi ymrwymo i’ch addysg a’ch gyrfa, yn ogystal â rhoi tystiolaeth o’ch datblygiad proffesiynol parhaus. Ar ôl mewngofnodi, gallwch reoli eich datganiad cyfranogi OpenLearn ar-lein yn My OpenLearn. Yn ogystal, gallwch ei lwytho i lawr a’i argraffu.

I gael datganiad o gyfranogiad, mae angen i chi ddarllen pob tudalen o'r cwrs, gan gynnwys y cyflwyniad a’r adran sy'n rhoi arweiniad. Cewch wybod drwy ebost os ydych chi wedi cael datganiad cyfranogi ond caniatewch hyd at 24 awr i hyn ddigwydd.

Byddai’r Brifysgol Agored yn gwerthfawrogi pe baech chi’n rhoi ychydig funudau o’ch amser i ddweud wrthym ni am eich disgwyliadau ar gyfer y cwrs cyn dechrau, yn ein harolwg dewisol ar ddechrau'r cwrs. Ar ôl i chi gwblhau’r cwrs, byddem hefyd yn gwerthfawrogi eich adborth a’ch argymhellion ar gyfer gwella yn y dyfodol, yn ein harolwg diwedd y cwrs. Bydd cymryd rhan yn gwbl gyfrinachol ac ni fyddwn yn pasio eich manylion ymlaen i unrhyw un arall.

Gallwch nawr fynd i Sesiwn 1.