5 Cyflwyno Peace at the Heart
Mae’r adran olaf hon o Sesiwn 1 yn cyflwyno Peace at the Heart, sy’n dwyn ynghyd waith addysgwyr, ysgolion a phobl ifanc i ddisgrifio addysg heddwch fel proses o feithrin a chynnal cysylltiadau cadarnhaol ar wahanol lefelau.
Yn yr adroddiad, mae cymhlethdod heddwch yn cael ei gyfleu yn y syniad o haenau sy’n gorgyffwrdd:
- Llesiant a datblygiad unigol (‘heddwch ynof fi fy hun’)
- Perthynas gadarnhaol â chyfoedion (‘heddwch rhyngom’)
- Cymuned ysgol gynhwysol (‘heddwch yn ein plith’)
- Dinasyddiaeth fyd-eang a datblygu cynaliadwy (‘heddwch yn y byd’)
Wrth i chi weithio drwy weddill y cwrs hwn, byddwch yn archwilio pob un o'r haenau hyn yn fanylach ac yn ystyried sut gallech chi weithio gyda'r model hwn o heddwch yn eich ymarfer. Bydd y gweithgaredd olaf yn y sesiwn hon yn eich helpu i ymgyfarwyddo â’r haenau a dechrau meddwl am sut mae hyn yn berthnasol i’ch cysyniadau personol a phroffesiynol o heddwch.
Gweithgaredd 7
Archwiliwch y diagram isod, gan ddarllen y diffiniadau o’r gwahanol haenau o heddwch a gymerwyd o Peace at the Heart. Nodwch y pwyslais ar feithrin a chynnal perthynas gadarnhaol, un o negeseuon craidd yr adroddiad.
Wrth i chi archwilio’r diagram, meddyliwch am y canlynol:
- Ym mha haen allai’r diffiniad o heddwch y meddylioch chi amdano ar ddechrau’r sesiwn ffitio?
- Sut gallai pob haen o heddwch edrych mewn ystafell ddosbarth neu ysgol?
- Sut mae’r haenau’n gorgyffwrdd?
Defnyddiwch y blwch ymateb isod i gofnodi eich meddyliau.
Trafodaeth
Efallai eich bod chi wedi canfod bod eich syniadau personol am heddwch yn ffitio i fwy nag un haen. Er enghraifft, mae ‘heddwch ynof fi fy hun’ yn golygu bod plant a phobl ifanc yn archwilio beth sy’n bwysig iddynt a beth sy’n dda ynddynt eu hunain. Mae hyn yn ymwneud â ‘heddwch yn y byd’ – gallai gwybod beth sy’n bwysig i chi fod yn berthnasol i’r ffordd rydych chi’n llywio drwy gymdeithas gymhleth.
O ran sut gallai pob haen edrych mewn ystafell ddosbarth neu ysgol, bydd y sesiynau a ganlyn yn rhoi rhai syniadau i chi. Am y tro, cadwch eich syniadau cychwynnol mewn cof a pharhau i’w datblygu wrth i chi weithio drwy’r deunyddiau.
