Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Awdur

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Egwyddorion ac arferion addysg heddwch
Egwyddorion ac arferion addysg heddwch

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Cofrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3.1 Hunanreoleiddio

Mae gallu adnabod teimladau rhywun yn gam pwysig tuag at reoli emosiynau. Mewn sefyllfaoedd o wrthdaro, mae emosiynau pwerus yn gweithredu ar y cyflwr corfforol a meddyliol. Mae sylweddoli beth sy’n digwydd yn rhoi lle i bobl weithredu a meddwl yn wahanol.

Yn y gweithgaredd nesaf hwn, byddwch yn dechrau meddwl am y mathau o emosiynau sy’n codi mewn sefyllfaoedd o wrthdaro, ac yn ystyried ffyrdd o’u hadnabod a’u rheoli.

Gweithgaredd 5 Sut mae gwrthdaro yn effeithio ar fy meddwl a’m corff?

Timing: Caniatewch tua 20 munud ar gyfer y gweithgaredd hwn

Rhan 1

Gwyliwch y fideo byr hwn lle mae Sioned yn amlinellu rhai o'r ffyrdd mae plant a phobl ifanc yn disgrifio eu profiadau o sefyllfaoedd o wrthdaro.

Download this video clip.Video player: Fideo 3
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
Fideo 3
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Rhan 2

Yn awr, ysgrifennwch yn y blychau isod y gwahanol ffyrdd y gall ymatebion i wrthdaro effeithio ar eich corff a’ch meddwl. Yn ogystal ag ystyried y syniadau yn y fideo, fe allech chi hefyd feddwl yn ôl i sefyllfa lle gwnaethoch chi brofi dicter neu emosiwn cryf arall o ganlyniad i wrthdaro.

Ymatebion i wrthdaro
Highlighted
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Highlighted
Geiriau: 0

Sylwad

Gall creu darlun o sut mae emosiynau cryf yn gallu effeithio ar wahanol rannau o’ch meddwl a’ch corff helpu i adnabod yr emosiynau hyn a dod o hyd i ffyrdd o’u rheoli. Fodd bynnag, mae angen ymarfer hyn i gyd ac, os byddwch yn rhoi cynnig ar unrhyw un o’r gweithgareddau hyn gyda phlant a phobl ifanc, dylech eu hystyried fel rhan o ddull cwricwlwm hirdymor o ymdrin â llesiant

Sesiynau DPP

Os ydych chi’n gwneud y gweithgaredd hwn gyda grŵp, gallech baratoi amlinelliad o ffigur i gyfranogwyr ei anodi. Gallent ychwanegu nodiadau post-it neu ddefnyddio’r ffigur ei hun i ddangos effaith yr emosiynau sy’n deillio o wrthdaro ar eu cyrff.

Fel y trafodwyd, mae cydnabod emosiynau pwerus fel dicter, straen a phryder ynoch chi eich hun ac eraill yn gam tuag at allu rheoli’r emosiynau hyn a lleihau’r risgiau o gael eich llethu ganddynt.

Isod mae gweithgaredd syml y gallech chi geisio ei wneud i helpu plant a phobl ifanc i ddechrau tawelu eu hunain pan fydd pethau’n eu llethu.

Olrhain dwylo

Edrychwch ar y fideo isod sy’n egluro techneg i’w defnyddio ar gyfer ffordd gyflym iawn o deimlo ychydig yn dawelach.

Fideo olrhain dwylo