Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Awdur

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Egwyddorion ac arferion addysg heddwch
Egwyddorion ac arferion addysg heddwch

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Cofrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Dysgu pellach

Rhywbeth i’w ddarllen

1. Sefydlwyd yr Amgueddfa Heddwch ym Mhrifysgol St Andrews yn yr Alban i helpu pobl i archwilio a gweld heddwch. Nodir ar eu gwefan:

Rydyn ni’n anelu at heddwch, rydyn ni’n ei osod fel delfryd – ond dydyn ni ddim yn treulio cymaint o amser yn archwilio ac yn myfyrio arno ag rydyn ni’n ei wneud gyda rhyfel.

Mae gan y wefan lawer i'w archwilio, ond am y tro mae’n bosibl y byddai'n ddefnyddiol i chi archwilio'r adran Pockets of Peace, syniad a allai fod yn ddefnyddiol wrth i chi a'ch cymuned addysgol archwilio beth mae heddwch yn ei olygu i chi.

Rhywbeth i’w wylio

1. Mae'r fideo hwn gan Peacemakers yn rhoi trosolwg o addysg heddwch, gan gynnwys esboniad o gadw heddwch, gwneud heddwch a meithrin heddwch:

Trosolwg o Addysg Heddwch

2. Cafodd y fideo hwn am deimladau ac ymwybyddiaeth ofalgar ei wneud ar gyfer BBC Plant mewn Angen yn 2021. Os nad yw’r fideo ei hun yn addas i’ch grŵp ei wylio, mae’n egluro tair strategaeth ymwybyddiaeth ofalgar y gallech chi eu rhannu â nhw.

Ymwybyddiaeth Ofalgar