1.1 Cynllunio sesiwn cylch
Mewn sesiwn cylch, mae oedolion yn gweithredu fel hwyluswyr yn hytrach nag arweinwyr ac mae pawb yn cymryd cyfrifoldeb dros wrando ar ei gilydd a chefnogi’r rhyngweithio.
Mae’r llyfr Learning for Peace yn disgrifio fformat profedig ar gyfer sesiwn cylch ‘meithrin heddwch’ y gallech ei addasu at eich defnydd eich hun (Ffigur 2). Mae'r fformat hwn yn rhannu'r sesiwn yn amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys agor y cylch fel lle i gydweithio, cydnabod presenoldeb pawb, torri'r iâ, sefydlu ffyrdd o weithio, cynnwys cyfranogwyr yn y prif weithgaredd, myfyrdodau a datganiadau ymgadarnhau.
Defnyddir ‘darn siarad’ i ddangos tro pwy yw mynegi eu meddyliau. Dim ond y sawl sy’n defnyddio’r darn siarad sy’n gallu mynegi eu syniadau (ac mae hynny’n cynnwys yr oedolion yn yr ystafell) ac mae’n rhaid i gyfranogwyr eraill ymrwymo i ymgysylltu â’u syniadau.
Gweithgaredd 2 Archwilio elfennau o sesiwn cylch
Defnyddiwch y tabl isod, a addaswyd o Learning for Peace, i archwilio gwahanol elfennau posibl o sesiwn cylch.
Fe welwch rai dolenni i wefannau sy’n awgrymu gweithgareddau ar gyfer pob rhan o sesiwn cylch.
Wrth i chi archwilio’r adnoddau hyn, defnyddiwch y blwch ymateb a ddarperir i wneud nodiadau am sut gallech chi roi sesiynau cylch ar waith yn eich ystafell ddosbarth. Gallech ystyried:
- Sut gallai eich grŵp greu trefn ar gyfer ffurfio ac agor cylchoedd yn eich ystafell ddosbarth.
- Unrhyw addasiad y gallai fod angen i chi ei wneud ar gyfer anghenion eich grŵp.
- Pa amser allai fod yn adeg da o'r dydd ar gyfer sesiynau cylch.
| Rhan o’r sesiwn | Math o weithgaredd | Cysylltiadau a phosibiliadau |
| Dechrau | Mae’n sefydlu’r cylch, yn caniatáu i gyfranogwyr rannu sut maent yn teimlo a sut bydd y grŵp yn gweithio gyda’i gilydd. | Pasiwch y darn siarad o gwmpas y cylch. Gofynnwch gwestiwn syml y gall pob cyfranogwr ei ateb pan ddaw eu tro. Gallech roi cynnig ar ‘Beth oedd eich hoff ran o’r wythnos/diwrnod hyd yma?’ |
| Cymysgu’r grŵp | Chwaraewch gêm i gymysgu’r cyfranogwyr, gan eu hannog i weithio gyda gwahanol aelodau o’r grŵp. | Salad ffrwythau Rhowch ddarn (neu lun) o ffrwyth i bob aelod o’r cylch. Bydd y cyfranogwyr yn cyfnewid seddi pan elwir eu ffrwythau. Gellir defnyddio’r gêm hon gyda nifer o ieithoedd fel y disgrifir yn erthygl OpenLearn dan y teitl Pineapples and Pashto lle mae’n cael ei defnyddio gyda siaradwyr Dari a Pashto. |
| Y prif weithgaredd | Prif ffocws y sesiwn. Dylai’r oedolyn gymryd rôl hwyluso yma – ceisiwch beidio ag arwain y sesiwn! | Bydd hyn yn dibynnu ar yr hyn mae’r cyfranogwyr eisiau ei ddatblygu fel grŵp. |
| Pwyso a mesur ac adolygu | Myfyrdod grŵp, rhannu’r hyn a ddysgwyd ac ymatebion i’r gweithgaredd. | Gweler y dolenni ar dudalen adnoddau ac argymhellion y Cwrs. |
| Gêm | Adnewyddu’r grŵp, gan ei gysylltu’n ôl â’r prif weithgaredd os oes modd. | Gweler y dolenni ar dudalen adnoddau ac argymhellion y Cwrs |
| Cadarnhad | Cyfle i rai aelodau o’r grŵp glywed pethau cadarnhaol am ei gilydd. | Mae’n dda bod yn fi fy hun o Sesiwn 2 Gweithgaredd 2 y cwrs hwn. |
| Gorffen | Edrych ymlaen, dod â’r sesiwn i ben a helpu’r cyfranogwyr i symud ymlaen i ran nesaf eu diwrnod. | Unwaith eto, gallai hwn fod yn gwestiwn syml y bydd pob un yn ei ateb pan fydd yn dal y darn siarad. Gallech roi cynnig ar ‘Beth ydych chi’n edrych ymlaen ato ar ôl ysgol?’ |
Ar dudalen adnoddau ac argymhellion y Cwrs fe welwch ddolenni i wefannau gyda gweithgareddau y gellid eu defnyddio mewn sesiynau amser cylch.
Cofiwch fod angen amser ar gylchoedd i setlo a rhoi cyfle i gyfnewid syniadau’n ystyrlon. Gallant gymryd peth amser i ymsefydlu fel rhan o drefn yr ystafell ddosbarth.
Gellir defnyddio cylchoedd i archwilio nifer o faterion. Yn yr adran nesaf byddwch yn edrych ar weithgaredd cylch sy’n cyflwyno agweddau tuag at wrthdaro.
