Sesiwn 4: Heddwch yn ein plith
Cyflwyniad
Mae 'Heddwch yn ein plith' yn ymwneud â datblygu ysgolion fel cymunedau dysgu lle gall pob aelod ffynnu. Mae hyn yn cynnwys staff yn ogystal â’r plant a’r bobl ifanc, a gall ymestyn i deuluoedd a’r gymuned ehangach dros amser.
Gall datblygu dull ysgol gyfan o ymdrin â heddwch yn ein plith fod yn dasg frawychus, felly mae’n ddefnyddiol i ysgolion archwilio’r amrywiaeth o fentrau a dulliau sydd ar gael. Mae’r sesiwn hon yn edrych ar gyfryngu gan gyfoedion a rhaglen Ysgolion sy’n Parchu Hawliau UNICEF. Fodd bynnag, mae dulliau eraill ar gael. Er enghraifft, ceir cynllun Ysgolion Noddfa ar gyfer ysgolion sy’n dymuno deall a chynorthwyo plant a phobl ifanc sy’n cael eu gorfodi i ffoi o’u cartrefi, a’r cynllun Ysgolion Heddwch sy’n cael ei redeg gan Gymru Global sy’n cynnig amrywiaeth o adnoddau i gefnogi ysgolion yng Nghymru ar eu taith heddwch. Darperir dolenni i’r ddau gynllun hyn yn nhudalennau adnoddau ac argymhellion y cwrs hwn.
Erbyn diwedd y sesiwn, fe ddylech chi allu:
- ystyried beth allai heddwch ei olygu yng nghymuned eich ysgol
- deall egwyddorion craidd cyfryngu rhwng cyfoedion a’i le mewn cymunedau heddychlon
- ehangu eich dealltwriaeth o Gymwyseddau Heddwch Cyngor Materion Ewropeaidd y Crynwyr
- datblygu trosolwg o raglen Ysgolion sy'n Parchu Hawliau UNICEF.
Dechreuwch gyda'r fideo hwn lle mae Jane yn cyflwyno'r sesiwn.

Transcript: Fideo 1
Wrth i chi weithio drwy'r sesiwn hon, meddyliwch am yr hyn y gallech chi ei wneud o fewn cylch eich dylanwad yng nghymuned eich ysgol. Beth bynnag yw eich rôl yn yr ysgol – boed yn rhiant, goruchwyliwr prydau bwyd, athro dosbarth, pennaeth – gallech ddefnyddio’r sesiwn hon i feddwl am yr hyn y gallech ei wneud i helpu i ddatblygu ‘‘heddwch yn ein plith’ yn eich cymuned.