Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Awdur

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Egwyddorion ac arferion addysg heddwch
Egwyddorion ac arferion addysg heddwch

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Cofrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2.1 Cyfryngu rhwng cyfoedion

Mae cyfryngu rhwng cyfoedion yn gweithio’n dda mewn ysgolion sy’n defnyddio dulliau adferol i reoli perthnasoedd yn yr ysgol. Mae dulliau adferol o fynd i'r afael â niwed yn cynnwys dod â phobl at ei gilydd i drafod y ffordd orau o fynd i'r afael â'r niwed neu'r drwgweithredu.

(EFRG, 2024)

Mae llawer o debygrwydd rhwng addysg heddwch a dulliau adferol o ymdrin ag addysg, gan fod y ddau yn ceisio gwreiddio perthynas gadarnhaol rhwng pob aelod o gymuned ysgol mewn awyrgylch lle gall pawb ffynnu. Gallwch chwilio am fwy o wybodaeth am ymarfer adferol ar dudalen Adnoddau ac argymhellion y cwrs hwn sy'n cynnwys dolenni i wybodaeth am ysgolion adferol.

Gweithgaredd 2 Cyflwyno cyfryngu rhwng cyfoedion

Timing: Caniatewch tua 5 munud ar gyfer y gweithgaredd hwn

Gwyliwch y fideo byr hwn gan CRESST gydag Ysgol Gynradd Greystone, Sheffield, a oedd yn gyd-enillwyr yng Ngwobrau Cyfryngu Cenedlaethol 2022, lle mae rhieni, staff, disgyblion a chyfryngwyr cyfoedion yn siarad am gyfryngu rhwng cyfoedion yn eu hysgol. Wrth i chi wylio, nodwch eich syniadau cychwynnol ynghylch beth mae cyfryngu rhwng cyfoedion yn ei olygu.

Download this video clip.Video player: Fideo 2
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
Fideo 2
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Trafodaeth

Mae cyfryngu rhwng cyfoedion yn golygu hyfforddi plant a phobl ifanc i gynorthwyo pobl sy’n gwrthdaro â’i gilydd i ddod o hyd i atebion cadarnhaol i’r gwrthdaro hwnnw. O’r herwydd, gellid ei ystyried yn rhan o’r broses o wneud heddwch — rheoli gwrthdaro’n adeiladol pan fydd yn codi.

Mae nifer o gynlluniau’n cael eu rhedeg gan amrywiaeth o sefydliadau a gwasanaethau sy’n cynorthwyo cyfryngu rhwng cyfoedion yn y Deyrnas Unedig a thu hwnt. Yn 2023, penodwyd Cydlynydd Cenedlaethol Cyfryngu gan Gyfoedion, gan adlewyrchu’r gydnabyddiaeth gynyddol i gyfryngu gan gyfoedion fel dull gwerthfawr o reoli gwrthdaro mewn ysgolion. Fodd bynnag, mae Isabel Cartwright (2018) yn pwysleisio bod angen i holl aelodau cymuned yr ysgol, gan gynnwys y pennaeth a goruchwylwyr amser cinio, gefnogi cyfryngu rhwng cyfoedion os yw am lwyddo.

Gweithgaredd 3 Archwilio cyfryngu gan gyfoedion yng Ngholeg Bacon

Timing: Caniatewch tua 20 munud ar gyfer y gweithgaredd hwn

Gwyliwch y fideo hwn a wnaed yng Ngholeg Bacon, Llundain, sydd wedi cynnal gwasanaeth cyfryngu rhwng cyfoedion gan ddisgyblion chweched dosbarth mewn ysgol uwchradd ers bron i 20 mlynedd. Yn y fideo byddwch yn gweld deunydd o’r adeg y sefydlwyd y gwasanaeth yn 2006, yn ogystal â phobl ifanc yn siarad am effaith y gwasanaeth ar eu bywyd yn yr ysgol a thu hwnt. Wrth i chi wylio’r fideo, gwnewch nodiadau byr am y cwestiynau hyn.

  • Pa fanteision allai cyfryngu rhwng cyfoedion eu sicrhau i gymuned yr ysgol?
  • Beth yw rôl oedolion yng nghymuned yr ysgol o ran helpu i ddatblygu cyfryngu rhwng cyfoedion?
Download this video clip.Video player: Fideo 3
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
Fideo 3
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Sylwad

Gall cyfryngu rhwng cyfoedion rymuso plant a phobl ifanc i chwarae rhan weithredol yn y gwaith o feithrin cysylltiadau heddychlon mewn ysgolion. Yn y fideo, trafododd cyn gyfryngwyr cyfoedion yr hyfforddiant a’r profiad a gawsant a’r mathau o weithgareddau a wnaethant fel cyfryngwyr cyfoedion.

Un rôl hanfodol i oedolion wrth ddatblygu cyfryngu rhwng cyfoedion yw hyfforddi plant a phobl ifanc fel cyfryngwyr (gweler yr adran nesaf). Fodd bynnag, mae’r fideo hefyd yn dangos pa mor bwysig yw cefnogi cyfryngu yn yr ysgol a’r gymuned y tu hwnt iddi.