2.4 Cymwyseddau a chyfryngu rhwng cyfoedion
Isod ceir poster gan Scottish Mediation a ddefnyddir i amlinellu rhai o’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfryngwyr cyfoedion. Gellid dysgu’r sgiliau hyn drwy’r hyfforddiant a gynigir gan wasanaethau cyfryngu i gyfoedion fel y rhai yn y blwch yn Adran 2.3, ond gellir eu dysgu hefyd i boblogaeth yr ysgol gyfan drwy weithgareddau bob dydd yn yr ystafell ddosbarth fel y rhai rydych chi’n darllen amdanynt wrth i chi weithio drwy’r cwrs hwn.
Gweithgaredd 5 Meithrin sgiliau a chymwyseddau ar gyfer cyfryngwyr cyfoedion a’u ‘cleientiaid’
Isod, ceir rhestr o gymwyseddau adroddiad QCEA Making the Case, a welsoch yn Sesiwn 3.
| Gwybodaeth | Agweddau | Sgiliau |
|---|---|---|
| Trais uniongyrchol, strwythurol a diwylliannol | Meddwl agored a chynwysoldeb | Cydweithredu adeiladol |
| Achosion a dynameg gwrthdaro treisgar | Parchu’r hunan, pobl eraill a’r amgylchedd | Deialog |
| Dewisiadau heddychlon eraill yn lle trais | Empathi | Cyfryngu |
| Hawliau dynol rhyngwladol / rhywedd / safonau hil ac ati | Undod | Cyfathrebu di-drais (gan gynnwys cyfathrebu chwilfrydig a phendant) |
| Materion cyfoes | Cysylltiadau cymdeithasol | Deall, rheoli a mynegi emosiynau |
| Yr amgylchedd a chynaliadwyedd | Hunanymwybyddiaeth | Gwrando gweithredol |
| Prosesau dinesig | Goddefgarwch | Cydweithredu rhyngddiwylliannol |
| Heddwch cadarnhaol a heddwch negyddol | Awydd i hyrwyddo cyfiawnder | Gwaith tîm |
| Cynhwysiant ac allgáu | Cyfrifoldeb cymdeithasol | Sgiliau dadansoddi |
| Rheoli, atal, datrys a thrawsnewid gwrthdaro | Chwilfrydedd | Meddwl yn feirniadol |
| Dysgu rhyng-ffydd a rhyngddiwylliannol | Sensitifrwydd at rywedd | Trafod |
| Parodrwydd i gydweithredu | Myfyrio |
Gwyliwch y fideo hwn gan Young Talk, sefydliad Cyfryngu Cyfoedion yr Alban, mewn partneriaeth â’r Crynwyr ym Mhrydain. Wrth i chi wylio, meddyliwch am y sgiliau a’r cymwyseddau mae’r cyfryngwyr Cyfoedion yn eu datblygu.

Transcript: Fideo 5
Yn awr, gan feddwl am yr hyn rydych chi wedi ei ddysgu hyd yma am gyfryngu â chyfoedion, defnyddiwch y blwch isod i nodi’r cymwyseddau mae cyfryngwyr cyfoedion ifanc a’u cleientiaid yn eu datblygu. Mae’n bosibl y byddwch chi eisiau defnyddio tri chategori fel y dangosir isod: un ar gyfer cyfryngwyr, un ar gyfer cyfranogwyr (cleientiaid), ac un ar gyfer y ddau.
Trafodaeth
Byddwch wedi sylwi bod ‘cyfryngu’ wedi ei restru’n benodol fel sgil yn y tabl cymwyseddau heddwch. Mae gwrando’n astud yn ganolog i gyfryngu rhwng cyfoedion ac mae’r bobl ifanc yn tynnu sylw ato yn y fideo. Bydd hyn yn bwysig i gyfryngwyr ifanc ac i’r rhai sy’n rhan o unrhyw wrthdaro sydd angen lle i wrando ar ei gilydd.
Mae’n bosibl eich bod chi hefyd wedi nodi’r sgiliau a’r agweddau a drafodwyd gennych chi wrth ystyried empathi yn Sesiwn 3 – gwrando gweithredol, sgiliau dadansoddi, gwrando’n ofalus a chasglu gwybodaeth. O’r fideos rydych chi wedi eu gwylio, mae’n bosibl eich bod chi wedi sylwi ar y pwyslais ar weithio drwy anawsterau yn hytrach na beirniadu a beio, er mwyn i bawb sy’n gysylltiedig ddatblygu eu sgiliau mewn cysylltiad cymdeithasol a gwaith tîm.
Yn ogystal â’r rhain, roedd y fideo gan Young Talk, a’r poster yn Ffigur 3 yn pwysleisio rheoli emosiynau a chyfyngu ar yr ego, felly mae hunanymwybyddiaeth a dealltwriaeth, rheoli a mynegi emosiynau hefyd yn gymwyseddau pwysig i gyfryngwyr.
Fel y gwelwch, dim ond un agwedd ar fywyd ysgol yw cyfryngu rhwng cyfoedion fel ffordd o gynorthwyo’r gwaith o ddatblygu cymwyseddau heddwch ar gyfer pob aelod o gymunedau ysgolion. Fodd bynnag, fel y gwelsoch hefyd, cyflawnir hyn yn fwyaf llwyddiannus mewn gwaith strategol i ddatblygu gallu lleoliadau addysgol i adeiladu cymunedau cryf lle gall pob aelod ffynnu.
