4 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn
Gall dysgu am heddwch a chyfiawnder o safbwynt hawliau dynol (cyffredinol) fod yn ffordd gynhwysol o helpu pob aelod o gymuned ysgol i gymryd rhan mewn heddwch yn ein plith.
Gweithgaredd 7 Dechrau archwilio CCUHP
Dilynwch y ddolen isod i gael crynodeb o Erthyglau 1–42 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn:
Cymerwch funud i ddarllen drwy deitlau pob erthygl i gael syniad o beth mae pob un yn ei gwmpasu. A oes unrhyw rai sy’n gwneud i chi oedi a meddwl am gymuned eich ysgol chi? Ble gallwch chi ddathlu eich ymarfer presennol, ar ba sylfeini mae’n rhaid i chi adeiladu a beth allech chi weithio tuag ato?
Trafodaeth
Mae’n bosibl eich bod chi wedi bod yn rhoi sylw i Erthyglau 28 a 29, sy’n delio’n uniongyrchol â hawliau plant mewn perthynas ag addysg. Gall Erthygl 30 brocio’r meddwl i ysgolion sydd â chymunedau amlieithog wrth iddynt ystyried i ba raddau mae plant a phobl ifanc yn teimlo eu bod yn gallu defnyddio’r ieithoedd o’u dewis fel rhan o’u dysgu. Mae Erthygl 12 yn cyd-fynd â nodau heddwch yn ein plith mewn ysgolion, gan ei bod yn galw am wrando ar farn a safbwyntiau plant a’u cymryd o ddifri. Mae hyn yn bwysig mewn cyfryngu rhwng cyfoedion gan fod dwy ochr y gwrthdaro yn cael cyfle i gael eu clywed. Mae'n bosibl y byddwch chi hefyd yn meddwl am hyn mewn perthynas â disgrifiad Nahal o ‘dimau arwain disgyblion’ y gwnaethoch chi glywed amdanynt yn rhan gyntaf y sesiwn hon.