4.1 Archwilio'r byd ehangach o safbwynt hawliau plant
Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn ein hatgoffa hefyd bod hawliau plant yn ymestyn i agweddau ar brofiadau pobl a gaiff effaith ddofn ar fywydau plant a phobl ifanc, ond sy’n gallu bod yn anodd neu’n heriol i blant a phobl ifanc eu harchwilio. Eto i gyd, daw plant a phobl ifanc ar draws profiadau heriol bob diwrnod. Gall profiadau o’r fath amrywio o bryderon ynglŷn â’r newyddion i brofiadau uniongyrchol o drais. Mae profiadau, dealltwriaeth a phryderon plant ynglŷn â rhyfel a gwrthdaro yn enghraifft o hyn, sef elfennau yr ymdrinnir â nhw yn Erthyglau 38 a 39.
| Erthygl 38 | Erthygl 39 |
|---|---|
| Ni ddylai llywodraethau ganiatáu i blant dan 15 oed gymryd rhan mewn rhyfel nac ymuno â’r lluoedd arfog. Rhaid i lywodraethau wneud popeth o fewn eu gallu i ofalu am blant y mae rhyfel a gwrthdaro yn effeithio arnynt. | Rhaid i blant sydd wedi dioddef esgeulustod, camdriniaeth, camfanteisio neu artaith, neu blant sydd wedi dioddef rhyfel, gael cymorth arbennig i’w helpu i adfer eu hiechyd, eu hurddas, eu hunan-barch a’u bywyd cymdeithasol. |
Mae UNICEF yn dadlau y gall archwilio pynciau o’r fath mewn amgylchedd sensitif a chadarnhaol gynnig sicrwydd i blant a phobl ifanc. Er enghraifft, mae’r pecyn addysgu Exploring War and Conflict yn cynnwys gweithgareddau ar gyfer helpu addysgwyr i drafod gwrthdaro treisgar yn eu dosbarthiadau.
Mae’n cynnwys gweithgareddau sy’n annog plant i ystyried ffyrdd o ofyn am gymorth ac mae’n cymell trafodaethau ynglŷn â’r pethau sy’n gwneud iddynt deimlo’n ddiogel. Yn bwysig, caiff addysgwyr eu hatgoffa i gydbwyso’r arfer o drafod pynciau heriol gyda gobaith ac optimistiaeth. Yn sesiwn 5 y cwrs, byddwch yn archwilio’r materion hyn yn fanylach wrth ichi droi at feddwl am heddwch yn y byd ehangach.
Mae adran olaf y sesiwn hon wedi rhoi trosolwg byr o raglen Ysgolion sy'n Parchu Hawliau UNICEF yn y Deyrnas Unedig. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y fenter drwy ddilyn y dolenni i wefan UNICEF ei hun ar dudalen Adnoddau ac argymhellion y cwrs hwn, lle mae gwybodaeth a chymorth ar gael.