Dysgu pellach
Rhywbeth i’w ddarllen
1. I ategu'r sesiwn hon, argymhellir eich bod yn darllen tudalennau 32–37 Peace at the Heart. Mae'r adran hon yn cynnig trosolwg gwerthfawr o addysg heddwch fel addysgeg feirniadol.
2. Mae cyhoeddiad Oxfam Teaching Controversial Issues: A guide for teachers ar gael i’w lwytho oddi ar wefan Oxfam.
Rhywbeth i’w wylio
1. Gwyliwch y fideo hwn gan Education Scotland lle mae dau o saith cymeriad Glasgow Girls yn siarad am eu profiadau o ymgyrchu dros well triniaeth i geiswyr lloches yn y Deyrnas Unedig.
Gallwch ddod o hyd i adnoddau addysg i ategu defnyddio’r stori hon yn yr ystafell ddosbarth yn Education Scotland . Mae rhagor o adnoddau am waith y merched ar gael ar wefan Educational Institute of Scotland.