2 Wangari’s Trees of Peace – dechrau gyda stori
Wangari Maathai oedd sylfaenydd Mudiad Gwregys Gwyrdd Kenya, sy'n ysbrydoli cymunedau i ofalu am yr amgylchedd a gwella bywoliaeth. Hi oedd y fenyw gyntaf o Affrica i ennill Gwobr Heddwch Nobel, ac mae'r mudiad a sefydlodd yn ffynnu heddiw.
Dywedodd Wangari Maathai (2003) ‘Pan fyddwn yn plannu coed, rydym yn plannu hadau heddwch a hadau gobaith. Rydyn ni hefyd yn sicrhau dyfodol i’n plant.’
Yn yr Alban, defnyddiodd staff a disgyblion Ysgol Gynradd Oakgrove yn Glasgow y llyfr Wangari’s Trees of Peace fel ysbrydoliaeth ar gyfer drama amgylcheddol a gyflwynwyd ganddynt i Senedd yr Alban. Yng Ngweithgaredd 3, byddwch yn archwilio eu gwaith.
Gweithgaredd 3 Defnyddio straeon yn y cwricwlwm heddwch
Gwyliwch y fideo hwn am Ysgol Gynradd Oakgrove yn Glasgow a’u prosiect wedi ei ysbrydoli gan stori Wangari Maathai fel y’i hadroddir yn y llyfr Wangari’s Trees of Peace.
Wrth i chi wylio, ystyriwch:
- Sut mae’r prosiect yn cyd-fynd â’r cwricwlwm ehangach ac ethos yr ysgol?
- Pa gymwyseddau heddwch ydych chi’n meddwl y gallai’r plant fod yn eu datblygu?

Transcript: Fideo 2
Trafodaeth
Mae Ysgol Gynradd Oakgrove yn benodol yn addysgu plant am faterion byd-eang ehangach a’u heffaith ar eu cymuned. Roedd y prosiect Coed Heddwch yn gysylltiedig â'r cwricwlwm gwyddoniaeth lle'r oedd plant yn dysgu am natur yn eu hamgylchedd lleol, a'r ffyrdd y gallai fod mewn perygl. Drwy'r prosiect, bu'r plant yn archwilio sut gallent ymgysylltu â materion o'r fath, o siarad â'u cymunedau uniongyrchol i gyflwyno eu gwaith i Senedd yr Alban.
Y cymhwysedd heddwch mwyaf nodedig y soniodd yr athrawon amdano oedd empathi, ond datgelwyd cymwyseddau ychwanegol yn nhrafodaethau’r plant. Mae’n bosibl eich bod chi wedi sylwi ar awydd i hyrwyddo cyfiawnder, cyfathrebu di-drais, a pharch at yr amgylchedd.
Roedd cyfranogwyr ar ddiwrnod y perfformiad plant yn Senedd yr Alban yn teimlo fod hwn wedi chwarae rhan yn y gwaith o ysbrydoli Aelodau o Senedd yr Alban (ASA) i lofnodi cynnig yr ASA Michelle Thomson i gefnogi addysg heddwch yn yr Alban (Waddell, 2023). Ym mis Tachwedd 2024, cafodd y cynnig hwn gefnogaeth drawsbleidiol. Gan hynny, mae cyfranogiad y plant mewn cwricwlwm heddwch gobeithiol wedi eu grymuso i greu newidiadau yn eu cymunedau lleol ac ar lefel genedlaethol.
Ym mis Hydref 2025 cefnogodd Senedd yr Alban lansiad Platfform Heddwch yr Alban sy'n cysylltu adeiladwyr heddwch ledled yr Alban. Mae'r platfform newydd hwn yn rhan o waith i gefnogi'r Alban i ddod yn llais dros heddwch yn y byd ac ystyrir bod addysg heddwch yn rhan bwysig o hyn.
