4 Gweithio yn y gymuned: Glasgow Girls
Un enghraifft o bobl ifanc yn ymgysylltu â’u cymuned yw ‘Glasgow Girls’, grŵp o fenywod ifanc o Ysgol Uwchradd Drumchapel yn Glasgow. Fel yr eglura Education Scotland, ymgyrchodd y menywod dros ryddhau eu ffrind Agnesa a’i theulu pan gawsant eu cadw gan y Swyddfa Gartref Brydeinig. Roedd gwaith y grŵp yn codi ymwybyddiaeth o driniaeth ceiswyr lloches (Education Scotland, 2018). Yn yr adran Dysgu pellach ar ddiwedd y sesiwn hon gallwch gael rhagor o wybodaeth am eu gweithgareddau a’r bobl a’r grwpiau y buont yn gweithio gyda nhw.
