Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Awdur

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Egwyddorion ac arferion addysg heddwch
Egwyddorion ac arferion addysg heddwch

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Cofrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

5.1 Dysgu Byd-eang

Gweithgaredd 4 Beth yw Dysgu Byd-eang?

Timing: Caniatewch tua 15 munud ar gyfer y gweithgaredd hwn

Mae Dysgu Byd-eang (ysgolion Gogledd Iwerddon) yn diffinio nodau Dysgu Byd-eang fel a ganlyn.

‘...gwella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r byd anghyfartal, rhyngddibynnol a chyfnewidiol rydym yn byw ynddo. Trwy gyfrwng dysgu arbrofol a gweithredol, caiff myfyrwyr eu hannog i ymhél yn feirniadol â materion cyfiawnder byd-eang, gan fynd ati ar yr un pryd i ddatblygu’r wybodaeth, y sgiliau a’r agweddau sy’n angenrheidiol i gymryd rhan weithredol yn eu datblygiad eu hunain ac yn natblygiad cymunedau lleol a byd-eang.’

Gwyliwch y fideo hwn gan Ysgolion Dysgu Byd-eang Gogledd Iwerddon. Beth yw nodweddion Dysgu Byd-eang? Sut y mae Dysgu Byd-eang yn cysylltu â Heddwch yn y Byd Ehangach?

Fideo 3
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Sylwad

Mae Dysgu Byd-eang yn ffordd o feddwl yn ymarferol, gyda gobaith. Fel yr esbonia’r fideo, mae’n anelu at baratoi plant a phobl ifanc ar gyfer ymhél yn hyderus â heriau anochel bywyd, ynghyd ag archwilio materion byd-eang o wahanol safbwyntiau a deall sut y mae pryderon byd-eang yn cysylltu â’u bywydau. Mae’n dadlau o blaid dulliau addysgol gweithredol a grymusol sy’n annog cydsafiad gydag eraill – rhywbeth a welwyd yn ymgyrchu’r ‘Glasgow Girls’. Mae hyn yn cydweddu â nodau Heddwch yn y Byd wrth i blant ddysgu trin a thrafod cymdeithas gymhleth, gan ddatblygu’n ddinasyddion sy’n gallu meddwl yn feirniadol ac ymhél yn weithredol.

Mae Dysgu Byd-eang wedi ennill momentwm mewn blynyddoedd diweddar, a chaiff ei gysylltu bellach â gwaith addysgol ym mhedair gwlad y Deyrnas Unedig. Gallwch ddod o hyd i ddolenni gwefannau sy’n cynnig rhagor o wybodaeth ac adnoddau ar dudalen Adnoddau ac argymhellion y cwrs hwn.