2 Beth sy’n gwneud addysg heddwch yn addysg o safon
Yn yr adran hon byddwch yn ystyried sut gall yr ymrwymiadau addysg heddwch gynorthwyo ysgolion i ddarparu addysg o safon i’w cymunedau.
Cafodd Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig eu creu yn 2015 gan Aelod-wladwriaethau’r Cenhedloedd Unedig. Er bod y nodau’n anelu at flwyddyn benodol, maent yn gosod targedau uchelgeisiol i wledydd weithio tuag atynt i adeiladu dyfodol cynaliadwy ac maent yn dal yn berthnasol er mwyn deall beth allai’r dyfodol hwnnw ei gynnwys. Mae 17 nod datblygu cynaliadwy. Ni all yr un o’r nodau sefyll ar eu pen eu hunain, maent i gyd yn gysylltiedig â’i gilydd. Fodd bynnag, mae'n ddefnyddiol gwybod bod NDC 4 yn ymwneud ag addysg o safon ac yn cynnwys targedau fel: sicrhau bod pob plentyn yn gallu cael gafael ar addysg gynradd ac uwchradd erbyn 2030 (targed 4.1); a dileu anghydraddoldebau mewn addysg, gan gynnwys gwahaniaethau rhwng y rhywiau ac ar gyfer pobl ag anableddau, pobl frodorol a phlant mewn sefyllfaoedd agored i niwed (targed 4.5).
Yn y gweithgaredd nesaf byddwch yn edrych yn ofalus ar darged 4.7 ar gyfer addysg o safon, ac yn ystyried sut mae’n cyd-fynd ag egwyddorion ac arferion addysg heddwch.
Gweithgaredd 2 Addysg o safon (Nod Datblygu Cynaliadwy 4) ac addysg heddwch
Rhan 1
Dechreuwch drwy wylio’r fideo byr hwn, sydd wedi ei anelu at ddisgyblion ysgolion uwchradd, am Nod Datblygu Cynaliadwy 4.

Transcript: Fideo 2
Isod ceir targed 4.7 o dan addysg o safon sy’n ymwneud â chwricwlwm ar gyfer datblygu cynaliadwy.
4.7 … sicrhau bod pob dysgwr yn cael yr wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i hyrwyddo datblygu cynaliadwy, gan gynnwys, ymysg pethau eraill, drwy addysg ar gyfer datblygu cynaliadwy a ffyrdd cynaliadwy o fyw, hawliau dynol, cydraddoldeb rhwng y rhywiau, hyrwyddo diwylliant heddychlon a di-drais, dinasyddiaeth fyd-eang a gwerthfawrogi amrywiaeth ddiwylliannol a chyfraniad diwylliant at ddatblygu cynaliadwy.
Sut mae targed 4.7 yn cyd-fynd â’r egwyddorion a’r arferion addysg heddwch rydych chi wedi dysgu amdanynt yn ystod y cwrs hwn?
Fe allech chi ddefnyddio’r blwch ymateb isod i nodi eich syniadau cychwynnol.
Trafodaeth
Mae’r egwyddorion a’r arferion heddwch a drafodir yn ystod y cwrs hwn yn elfennau o darged 4.7, ‘ymrwymiad i ddiwylliant heddychlon a di-drais’. Gellir ystyried deall emosiynau, rheoli gwrthdaro a datblygu sgiliau cyfryngu i gyd fel rhan o’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i hyrwyddo diwylliant o heddychlon a di-drais, yn yr ysgol a thu hwnt.
Mae’r arferion a’r mentrau rydych chi wedi darllen amdanynt hefyd yn cyd-fynd â tharged 4.1. Er enghraifft, mae dod yn Ysgol sy’n Parchu Hawliau UNICEF yn cefnogi dealltwriaeth o hawliau dynol a chydraddoldeb rhywedd, tra gall ymrwymiad i lesiant, cefnogi datganiadau ymgadarnhau pobl eraill, ac archwilio amrywiaeth delfrydau ynghylch heddwch mewn cymunedau ysgol gyfrannu at werthfawrogiad o amrywiaeth ddiwylliannol yng nghymuned yr ysgol a’r byd ehangach y tu hwnt.
Mae dolenni i ragor o wybodaeth am y nodau datblygu cynaliadwy ar dudalen Adnoddau ac argymhellion y cwrs hwn.
Rhan 2
Mae gwaith addysgwyr heddwch wedi ei seilio ar set graidd o ymrwymiadau ac egwyddorion sy’n gyrru ymarfer. Mae egwyddorion o'r fath yn llywio'r dewisiadau mae addysgwyr a chymunedau addysgol yn eu gwneud ym mhob agwedd ar eu lleoliadau, o'r cwricwlwm ac addysgeg i bolisïau ymddygiad i weithio gyda'r gymuned ehangach.
Bydd y rhan nesaf hon o'r gweithgaredd yn eich helpu i ystyried yr ymrwymiadau addysg heddwch fel addysg o safon. Cymerwch eich amser i fynd drwy’r gwaith gan y bydd yn eich helpu i nodi'r sylfaen y gallech adeiladu eich cymuned addysg heddychlon arni, waeth pa mor fach.
Dechreuwch drwy ddarllen drwy’r ymrwymiadau cyffredin i addysg heddwch yn y blwch isod. Mae’r ymrwymiadau hyn, a amlinellir yn Peace at the Heart, yn rhoi perthnasoedd wrth galon addysg heddwch. Mae'r perthnasoedd hyn yn ffurfio gwe gydgysylltiedig sy'n adeiladu i gymuned addysgol gydlynol lle mae pawb yn teimlo eu bod wedi eu grymuso i ymgysylltu'n adeiladol ac yn hyderus â'r ysgol a'r byd ehangach y tu hwnt.
Wrth i chi ddarllen yr ymrwymiadau, myfyriwch ar eich arferion addysgol presennol ac, os yw'n briodol, arferion eich cymuned ysgol ehangach. Defnyddiwch y blychau i nodi i ba raddau mae’r arferion presennol hyn yn cyd-fynd â’r ymrwymiadau addysg heddwch. Cymerwch amser i wneud hyn. Gallech nodi rhywbeth mor fach â chyfnewid cyfarchion a mân sgyrsiau gyda phlant a’u teuluoedd yn y bore ac ar ôl ysgol, neu rywbeth mor fawr â rhedeg cyngor ysgol sy’n cael effaith wirioneddol ar benderfyniadau rheoli.
| Ymrwymiadau cyffredin i addysg heddwch | Ble ydw i yn fy ymarfer personol? | Ble mae fy nghymuned addysgol? | |
|---|---|---|---|
| I bob myfyriwr | Mae llais, anghenion a gweithrediadau pob myfyriwr yn haeddu sylw, waeth beth fo'u hymddygiad. | ||
| I bob athro | Mae llesiant myfyrwyr yn dibynnu ar lesiant, ymrwymiad a chymhwysedd athrawon, fel gweithwyr proffesiynol sy'n cael eu cefnogi a'u hannog gan eu rheolwyr, gan ei gilydd, a chan gymdeithas sy'n eu gwerthfawrogi. | ||
| I’r ysgol fel cymuned | Mae cymuned addysgol ffyniannus yn dibynnu ar ecoleg eang o arferion adeiladol perthynol, y gall pob aelod o'r gymuned gyfrannu atynt. | ||
| I gymdeithas yn ei hamrywiaeth | Cynorthwyir myfyrwyr i lywio eu byd, wynebu heriau cymdeithas gyda dealltwriaeth, a chanfod eu hymrwymiadau oddi mewn iddo. | ||
| I bob perthynas | Bydd addysgeg heddwch effeithiol yn cyffwrdd ar bob perthynas rhwng ac ymhlith myfyrwyr, athrawon a rheolwyr ysgolion, a hefyd ar ethos a pholisïau cymuned yr ysgol. Mae ymdrechu i gael perthynas heddychlon ag eraill yn golygu ymdrechu i gael perthnasoedd teg. | ||
| I obaith | Mae addysgwyr heddwch yn cydnabod y gall pob perthynas gael ei niweidio, ond chwiliwch am yr hyn sydd serch hynny’n addawol ynddynt a cheisiwch weithio gyda nhw’n adeiladol. | ||
| I gydymddibyniaeth | Mae dysgu da yn ymdrech gymunedol sy’n gwerthfawrogi elfennau cyffredin a gwahaniaethau rhwng pawb sy’n gysylltiedig. Mae athrawon yn cadw eu hawdurdod ac yn cadw ffiniau diogel ar gyfer eu myfyrwyr, ond mae gan y ddau rôl fel addysgwyr a dysgwyr. | ||
| Bod yn greadigol | Mae addysg heddwch yn gwerthfawrogi creadigrwydd ac arbrofi, gan ddefnyddio camgymeriadau fel cyfleoedd i dyfu. |
Sylwad
Mae ymrwymiad i berthnasoedd yn golygu bod gan bob un mewn lleoliad addysgol rôl i’w chwarae o ran creu a chynnal cymuned heddychlon. Byddwch wedi gweld llawer yn eich ymarfer presennol sydd eisoes yn cyd-fynd â’r ymrwymiadau addysg heddwch. Er enghraifft, perthynas gadarnhaol gyda’ch myfyrwyr ac aelodau eraill o staff, gwasanaethau sy’n dathlu cyflawniadau plant a phobl ifanc, gwersi dinasyddiaeth ac ABGI lle mae disgyblion yn dysgu meithrin perthynas iach â nhw eu hunain a’r byd. Mae gweithgareddau o'r fath yn fan cychwyn tuag at feithrin heddwch fel rhan o gymuned addysgol.
Sesiynau DPP
Ar gyfer sesiynau DPP, gallwch gwblhau Rhan 2 y gweithgaredd uchod gyda grŵp, gan archwilio'r sylfaen y gallech adeiladu cymuned addysgol heddychlon arni. Rhannwch yn grwpiau llai sy’n cymryd un ymrwymiad yr un i’w ystyried yn fanwl. Cofiwch ddathlu arferion cadarnhaol sy’n bodoli’n barod yn ogystal â nodi meysydd i’w datblygu.
Yn awr, cymerwch funud i ddathlu’r hyn rydych chi eisoes yn ei wneud i feithrin heddwch cadarnhaol yn eich rôl a’ch lleoliad presennol. Mae sawl agwedd ar arferion ysgolion y gellid eu hystyried yn rhan o feithrin heddwch, ac mae bob amser yn galonogol gweld lle mae arferion presennol ysgolion eisoes yn cyd-fynd ag ymrwymiadau addysg heddwch.
Weithiau, mae’r ymrwymiadau hyn yn gofyn i gymunedau addysgol herio credoau ac arferion hirsefydlog sydd wedi hen ennill eu plwyf. Er enghraifft, yn Sesiwn 1 fe ddarllenoch chi am ysgol a oedd yn sylweddoli bod eu harferion bob dydd o bêl-droed ar yr iard chwarae yn seiliedig ar y gred bod pêl-droed ar gyfer bechgyn. Rhan o waith beirniadol yr addysgwr heddwch yw gallu cydnabod ymarfer diwylliannol a strwythurol dreisgar yn y lleoliad addysgol ei hun. Gall gweithio i newid arferion o'r fath fod yn hirdymor ac yn heriol.
