2.2 Adnoddau i gynorthwyo eich taith heddwch
Nid yw ysgolion ac addysgwyr ar eu pen eu hunain yn eu gwaith heddwch. Drwy gydol y cwrs hwn, rydych chi wedi cael golwg ar sefydliadau sy’n cefnogi agweddau ar feithrin heddwch yn yr ysgol. Mae’r rhain yn amrywio o elusennau fel Oxfam, grwpiau ffydd fel y Crynwyr ym Mhrydain (cyd-awduron y cwrs hwn) a chynlluniau cenedlaethol fel Scottish Peer Mediation, Cymru Global a Ideas For Global Citizenship (IDEAS). Mae’r grwpiau hyn yn cynnig amrywiaeth o adnoddau y gellid eu defnyddio i gynorthwyo datblygiad ysgolion ym mhob agwedd ar addysg heddwch. Mae dolenni i’r sefydliadau hyn ar y dudalen adnoddau ac argymhellion.
Gyda Pax Christi, mae’r Crynwyr ym Mhrydain hefyd yn cyd-gadeirio’r Rhwydwaith Addysg Heddwch. Mae llawer o’r sefydliadau rydych chi wedi cwrdd â nhw yn ystod y cwrs hwn yn aelodau o’r Rhwydwaith Addysg Heddwch. Ar eu gwefan fe welwch becynnau dysgu heddwch ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd, sydd â chyfoeth o weithgareddau ar gyfer addysg heddwch. Mae’r Pecynnau Addysgu Heddwch hefyd ar gael yn y Gymraeg. Yn ogystal, mae’r wefan yn cynnwys ddolenni i grwpiau defnyddiol eraill.
Mae sefydliadau hefyd (fel Facing History and Ourselves) sy’n cynnig cynlluniau gwersi, hyfforddiant a ffyrdd o fynd i’r afael â phynciau mewn heddwch yn y byd ehangach. Mae Athroniaeth i Blant (P4C) yn cynnig dull o archwilio rhai o'r themâu a drafodwyd yn y cwrs hwn. Yn ogystal â hyn, ceir cynlluniau achredu ysgolion sy’n cefnogi addysg heddwch, fel Ysgolion sy’n Parchu Hawliau UNICEF, a Chymru Global, sydd â chynllun Gwobr Ysgolion Heddwch ac sy’n cynnig hyfforddiant a deunyddiau cwricwlwm ar gyfer ysgolion yng Nghymru. Mae cynlluniau o’r fath hefyd yn cynnig adnoddau i gynorthwyo ysgolion ar eu teithiau heddwch. Unwaith eto, mae tudalen adnoddau ac argymhellion y cwrs hwn yn cynnwys dolenni i’r sefydliadau hyn.
Er y gall fod goblygiadau cost i rai o’r adnoddau a’r hyfforddiant mae’r safleoedd hyn yn eu cynnig, mae adnoddau am ddim hefyd yn aml y gallech eu harchwilio wrth i chi ddechrau ar eich taith heddwch.