Dysgu pellach
Mae angen talu ffi i gael mynediad at rai o’r adnoddau hyn.
Rhywbeth i’w ddarllen
1. Am gyflwyniad i ddamcaniaethau ac arferion Addysg Heddwch:
Positive Peace in Schools (2017) Hilary Cremin a Terence Bevington
2. Mae hwn yn llyfr defnyddiol ar gyfer rheolwyr ysgolion canol ac uwch gyda phenodau wedi eu hysgrifennu gan lawer o ffigurau blaenllaw ym maes addysg a heddwch am eu profiadau o feithrin heddwch mewn ysgolion.
Mae’r Rhwydwaith Addysg Heddwch (Peace Education Network) yn adnodd gwych. Mae'n cynnwys pecynnau Teach Peace ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd
Learning for Peace: A Guide to Developing outstanding SMSC in your Primary School
3. Llyfr ar lefel ysgol gan Peacemakers (a elwir hefyd yn West Midlands Quaker Peace Education Project). Mae’n cynnwys pecyn o weithgareddau, cwricwlwm ysgol gyfan ar Heddwch ar gyfer yr ystod oedran cynradd a gweithgareddau ar gyfer pum haen o Heddwch.
4. Mae’r llyfr hwn gan Kristine Høeg Karlsen a Margaretha Häggström yn cynnwys straeon y gellir eu defnyddio mewn addysg heddwch.
Teaching through Stories: Renewing the Scottish Storyline Approach in Teacher Education
5. Mae gwefan Peaceful Schools yn cynnwys adnoddau i helpu ysgolion i gynllunio eu taith heddwch. Maent hefyd yn cynnal Cynllun Gwobrwyo Ysgolion Heddychlon.
6. Rhwydwaith Cyfryngu Cyfoedion (PMN)
7. How to be a Peaceful School: practical ideas, stories and inspiration (2018) golygwyd gan Anna Lubelska.
Rhywbeth i’w wylio
Dechreuodd Malala Yousafzai weithredu dros addysg merched yn 2009 pan oedd hi’n 12 oed. Er iddi gael ei saethu am ei gweithredu yn 2012, mae Malala yn parhau â'i gweithredaeth yn awr, ar ôl ennill Gwobr Heddwch Nobel yn 2014. Gallwch wylio cyfweliad gyda Malala Yousafzai ar bwysigrwydd addysg:
