Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 2
Mathemateg bob dydd 2

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Sesiwn 2: Unedau mesur

Cyflwyniad

Yn y sesiwn hwn byddwch yn cyfrifo gan ddefnyddio unedau mesur ac yn canolbwyntio ar hyd, amser, pwysau, cynhwysedd ac arian. Byddwch eisoes yn defnyddio’r sgiliau hyn yn eich bywyd bob dydd wrth:

  • weithio allan pa drên mae angen ichi ei ddal er mwyn cyrraedd eich cyfarfod yn brydlon
  • pwyso neu fesur cynhwysion wrth goginio
  • trosi symiau’n fras mewn gwlad dramor er mwyn gweithio allan faint mae’ch pryd bwyd yn costio mewn punnoedd Prydeinig.

Erbyn diwedd y sesiwn hwn byddwch yn gallu:

  • deall bod yna unedau gwahanol sy’n cael eu defnyddio i fesur a sut i ddewis yr uned briodol
  • trosi rhwng mesuriadau yn yr un system (e.e. gramau a chilogramau) a’r rheiny mewn systemau gwahanol (e.e. litrau a galwyni)
  • defnyddio cyfraddau cyfnewid i drosi mathau o arian cyfred
  • gweithio gydag amser ac amserlenni
  • gweithio allan cyflymder cyfartalog taith gan ddefnyddio fformiwla
  • trosi mesuriadau tymheredd rhwng Celsius (°C) a Fahrenheit (°F)
  • darllen graddfeydd ar gyfarpar mesur.

Yn gyntaf gwyliwch y fideo isod sy’n cyflwyno unedau mesur.

Download this video clip.Video player: a68_units.mp4
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
 
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).