Sesiwn 3: Siapiau a gofod
Cyflwyniad
Edrychwch ar y llun isod. Er mwyn addurno’r ystafell, byddai angen ichi wybod hyd y sgyrtin mae ei angen (perimedr), faint o garped i’w archebu a faint o duniau o baent i’w prynu (arwynebedd). Byddai hefyd angen ichi ddefnyddio’ch sgiliau talgrynnu (gan fod yn rhaid prynu eitemau fel paent a sgyrtin mewn unedau llawn) a’ch gwybodaeth am adio a lluosi – i weithio allan y gost!

Bydd y sesiwn hwn o’r cwrs yn dibynnu ar y sgiliau a ddysgoch yn y sesiynau ‘Gweithio gyda rhifau’ ac ‘Unedau mesur’.
Drwy gydol y sesiwn hwn byddwch yn dysgu sut i ganfod perimedr, arwynebedd a chyfaint siapiau syml a rhai mwy cymhleth – os ydych chi erioed wedi addurno ystafell byddwch yn gyfarwydd â’r sgiliau hyn eisoes. Mae’n bwysig gallu gweithio allan arwynebedd a pherimedr yn fanwl gywir er mwyn sicrhau eich bod yn prynu digon o bob deunydd (ond nid gormod er mwyn osgoi gwastraff).
Ar ôl i’ch ystafell gael ei haddurno’n hardd, bydd angen ichi gynllunio’r lleoedd gorau i roi eich dodrefn (a gwneud yn siŵr eu bod yn ffitio!). Mae’n bosibl y byddwch yn defnyddio lluniad wrth raddfa i wneud hyn.
Erbyn diwedd y sesiwn hwn byddwch yn gallu:
deall y gwahaniaeth rhwng perimedr, arwynebedd a chyfaint ac yn gallu cyfrifo’r rhain ar gyfer siapiau syml a rhai mwy cymhleth.
gwybod bod cyfaint yn fesur o’r gofod y tu mewn i wrthrych 3D a chyfrifo cyfeintiau siapiau er mwyn datrys problemau ymarferol
lluniadu a defnyddio lluniad neu gynllun wrth raddfa.
