1 Pedwar gweithrediad
Byddwch eisoes yn defnyddio’r pedwar gweithrediad yn eich bywyd pob dydd (p’un a ydych chi’n sylweddoli hynny neu beidio). Mae bywyd pob dydd yn gofyn ichi ddefnyddio mathemateg drwy’r amser: rhai enghreifftiau yw gwirio eich bod wedi cael y newid cywir, gweithio allan faint o becynnau o deisennau mae arnoch eu hangen ar gyfer parti pen-blwydd i blentyn a rhannu’r bil mewn bwyty.
Y pedwar gweithrediad yw adio, tynnu, lluosi a rhannu. Mae angen ichi ddeall beth mae pob gweithrediad yn ei wneud a phryd i’w ddefnyddio. Yn lefel 2, yn aml bydd angen ichi ddefnyddio mwy nag un gweithrediad i ateb cwestiwn.
Adio (+)
Defnyddir y gweithrediad hwn pan rydych eisiau canfod cyfanswm, neu swm, dau swm neu fwy.
Tynnu (−)
Defnyddir y gweithrediad hwn pan rydych eisiau canfod y gwahaniaeth rhwng dau swm neu faint sydd gennych yn weddill ar ôl defnyddio maint penodol – er enghraifft, os ydych eisiau canfod faint o newid sy’n ddyledus ichi ar ôl gwario swm o arian.
Lluosi (×)
Defnyddir y gweithrediad hwn i gyfrifo nifer o symiau o’r un rhif. Er enghraifft, pe baech chi eisiau gwybod cost 16 o blanhigion sy’n costio £4.75 yr un, byddech yn lluosi £4.75 â 16:
£4.75 × 16 = £76
Rhannu (÷)
Defnyddir rhannu pan rydych yn rhannu neu’n grwpio eitemau. Er enghraifft, pe bai grŵp o 6 ffrind yn ennill £765 ar y loteri ac roeddech eisiau gwybod faint o arian fyddai pob un yn ei gael, byddech yn rhannu £765 â 6:
£765 ÷ 6 = £127.50
Os ydych yn gwneud y cwrs hwn i’ch paratoi chi ar gyfer Sgiliau Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru, cofiwch nad yw’r papurau arholiad yn caniatáu ichi ddefnyddio cyfrifiannell, felly ceisiwch wneud y cyfrifiadau yn y sesiwn hwn ar bapur.
Gweithgaredd 1: Dewis gweithrediad
Mae pob un o’r pedwar cwestiwn isod yn defnyddio un o’r pedwar gweithrediad. Parwch y gweithrediad â’r cwestiwn.
Gan ddefnyddio'r ddwy restr ganlynol, parwch bob eitem sydd wedi'i rhifo â'r llythyren gywir.
Match each of the previous list items with an item from the following list:
a.Mae angen ichi gynilo £306 ar gyfer gwyliau. Mae gennych 18 mis i gynilo’r arian. Faint o arian mae angen ichi ei gynilo bob mis?
b.Mae un deg pedwar aelod o’r un teulu’n mynd ar eu gwyliau gyda’i gilydd. Maen nhw’n talu £155 yr un. Beth yw cyfanswm cost y gwyliau?
c.Rydych yn mynd i’r caffi lleol ac yn prynu coffi am £2.35, te am £1.40 a croissant am £1.85. Faint ydych chi’n ei wario?
d.Rydych yn gwneud hawliad yswiriant gwerth £18 950. Mae’r cwmni yswiriant yn talu £ 12 648. Beth yw’r gwahaniaeth rhwng y swm a hawlioch a’r hyn a gawsoch?
- 1 = a,
- 2 = b,
- 3 = d,
- 4 = c
Rhowch gynnig ar y cwestiynau hyn i wneud yn siŵr eich bod yn hyderus i ddefnyddio pob un o’r pedwar gweithrediad.
Gweithgaredd 2: Cyfrifiadau gyda rhifau cyfan
1245 + 654
187 + 65 401
1060 − 264
2000 − 173
543 × 19
1732 × 46
1312 ÷ 8
1044 ÷ 12
Mae Stuart yn cynilo £225 bob mis i brynu car newydd. Faint o arian fyddai Stuart wedi’i gynilo mewn:
a.1 flwyddyn
b.2 flynedd
Mae gan neuadd gyngerdd 2190 o seddi wedi’u trefnu’n 15 adran. Faint o seddi sydd ym mhob adran?
Mae coleg yn gwerthu 325 o docynnau ar gyfer y ddawns elusen am £12 yr un. Faint o arian a godir o werthu’r tocynnau?
Ateb
1245 + 654 = 1899
187 + 65 401 = 65 588
1060 − 264 = 796
2000 − 173 = 1827
543 × 19 = 10 317
1732 × 46 = 79 672
1312 ÷ 8 = 164
1044 ÷ 12 = 87
-
a.Mae Stuart yn cynilo £225 y mis am 1 flwyddyn neu 12 mis, felly’r cyfrifiad yw 225 × 12 = £2700.
b.Mae Stuart yn cynilo £2700 mewn 1 flwyddyn, felly i weithio allan y swm a gynilir mewn 2 flynedd, y cyfrifiad yw 2 x £2700 = £5400. Fel arall, gallech adio £2700 + £2700 = £5400.
I gyfrifo hyn, rydych yn rhannu nifer y seddi â nifer yr adrannau.
Felly, 2190 ÷ 15 = 146. Felly mae yna 146 o seddi ym mhob adran.
I gyfrifo hyn, rydych yn lluosi nifer y tocynnau â chost y tocyn.
Felly, 325 × 12 = 3900. Felly bydd y coleg yn codi £3900 o werthu’r tocynnau.