1.3 Ymdrin â degolion
Rydym yn ymdrin â degolion yn aml mewn bywyd pob dydd, er enghraifft, cyfrifiadau’n ymwneud ag arian.
Rhowch gynnig ar y canlynol (heb gyfrifiannell) i wirio’ch sgiliau. Ar gyfer y gweithgaredd hwn, bydd angen ichi roi’ch atebion yn llawn, a dim ond eu talgrynnu neu eu cymhwyso os oes angen. Os oes angen eich atgoffa sut i wneud unrhyw un o’r cyfrifiadau, cyfeiriwch yn ôl at Mathemateg Pob dydd 1.
Gweithgaredd 5: Cyfrifiadau gyda degolion
54.865 + 4.965 + 23.519
6.938 − 5.517
25 + 0.258
54 − 0.65
5.632 × 2.4
1.542 × 1.9
42.4 ÷ 4
39.45 ÷ 1.5
0.48 ÷ 0.025
Mae ffatri’n archebu 425 o gasgedi sy’n pwyso 2.3 g yr un. Beth yw cyfanswm pwysau’r gasgedi?
Mae peiriant dosbarthu yn dal 15.5 litr o ddŵr. Faint o gwpanau 0.2 litr llawn allwch chi eu cael o un peiriant dosbarthu?
Mae Ahmed a Lea yn cymryd rhan yn y naid hir. Mae eu canlyniadau fel a ganlyn:
Ahmed 5.501 m
Lea 5.398 m
Pwy neidiodd y pellter hiraf ac o faint?
Ateb
83.349
1.421
25.258
53.35
13.5168
2.9298
10.6
26.3
19.2
977.5 g
77.5 (77 o gwpanau llawn)
Ahmed neidiodd y pellter hiraf o 0.103 m
Crynodeb
Yn yr adran hon, rydych wedi:
ailedrych ar sut i wneud cyfrifiadau gyda rhifau cyfan a degolion
dysgu i addasu atebion lle bo angen
dysgu sut i fynegi gweddill fel degolyn.