Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 2
Mathemateg bob dydd 2

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

10.1 Symleiddio cymarebau

Weithiau bydd angen ichi weithio allan y gymhareb o’r meintiau sydd gennych.

Os cyfeiriwn yn ôl at yr enghraifft uchod, dywedasom mai 150:100 yw’r gymhareb o fenywod i ddynion yn y clwb drama. Fodd bynnag, gallwch symleiddio’r gymhareb hon trwy rannu’r holl rannau â’r un rhif. Mae hyn yn debyg i symleiddio ffracsiynau, a wnaethoch eisoes.

Gyda’r gymhareb 150:100, gallwn rannu’r ddwy ochr â 50 (gallech hefyd rannu â 10 ac yna â 5), felly bydd y gymhareb yn symleiddio i 3:2. Felly, y gymhareb o fenywod i ddynion yn y clwb yw 3:2. Mae ei hysgrifennu yn ei ffurf symlaf yn ei gwneud yn haws i feddwl amdani a’i defnyddio ar gyfer cyfrifiadau eraill. Am bob 2 ddyn sydd gennych, mae yna 3 menyw.

Dewch inni edrych ar enghraifft arall.

Enghraifft: Ryseitiau a chymhareb

Edrychwch ar y rysáit hon ar gyfer coctel ffug:

Smwddi’r Machlud

  • 50 ml grenadin
  • 100 ml sudd oren
  • 150 ml lemonêd

Cymhareb y cynhwysion yw:

  • grenadin:sudd oren:lemonêd
  •        50       :        100       :      150

I symleiddio’r gymhareb hon, gallwch rannu’r holl rifau â 50 (neu â 10 ac yna 5).

Felly 1:2:3 yw’r gymhareb o grenadin i sudd oren i lemonêd.

Gweithgaredd 24: Symleiddio cymarebau

Symleiddiwch y cymarebau canlynol:

  1. Y gymhareb o fenywod i ddynion mewn dosbarth yw 15:20.
  2. Y gymhareb o reolwyr i staff mewn warws yw 10:250.
  3. Y gymhareb o gefnogwyr cartref i’r rhai oddi cartref yw 24 000 i 8000.
  4. Y gymhareb o bleidleisiau mewn etholiad lleol oedd ymgeisydd A 1600, ymgeisydd B 800, ymgeisydd C 1200.
  5. Y gymhareb o ffrwythau mewn bag o ffrwythau sych cymysg yw 150 g o gyrens, 100 g o resins, 200 g o syltanas a 50 g o groen cymysg.

Ateb

  1. Y gymhareb o fenywod i ddynion yw 3:4 (rhannu’r ddwy ochr â 5).

  2. Y gymhareb o reolwyr i staff yw 1:25 (rhannu’r ddwy ochr â 10).

  3. Y gymhareb o gefnogwyr cartref i’r rhai oddi cartref yw 3:1 (rhannu’r ddwy ochr ag 8000 neu â 1000 ac yna ag 8).

  4. Cymhareb A i B i C yw 4:2:3 (rhannu pob rhan o’r gymhareb â 400 neu â 100 ac yna â 4).

  5. Y gymhareb o gyrens i resins i syltanas i groen cymysg yw 3:2:4:1 (rhannu â 50 neu â 10 ac yna 5).

Gellir gofyn cwestiynau cymhareb mewn gwahanol ffyrdd. Mae tair prif ffordd o ofyn cwestiwn cymhareb. Edrychwch ar enghraifft o bob un isod, a cheisiwch ganfod y gwahaniaethau.

Mathemateg 1

Mae rysáit ar gyfer bara’n dweud bod rhaid defnyddio blawd a dŵr yn y gymhareb 5:3. Os ydych chi eisiau gwneud 500 g o fara, faint o flawd ddylech chi ei ddefnyddio?

Mathemateg 2

Rydych chi’n tyfu tomatos. Mae’r cyfarwyddiadau ar y bwyd tomatos yn dweud ‘Defnyddiwch 1 rhan o fwyd i 4 rhan o ddŵr’. Os ydych yn defnyddio 600 ml o ddŵr, faint o’r bwyd tomatos ddylech chi ei ddefnyddio?

Mathemateg 3

Mae Idris ac Annes wedi rhannu arian yn y gymhareb 3:7. Mae Annes yn cael £20 yn fwy nag Idris. Faint o arian mae Idris yn ei gael?

Mewn cwestiynau math 1, rhoddir ichi gyfanswm y ddau gynhwysyn wedi’u hadio at ei gilydd, sef 500 g yn yr enghraifft hon. Fodd bynnag, mewn cwestiynau math 2, ni roddir ichi’r cyfanswm, ond yn hytrach swm un rhan o’r gymhareb. Yn yr achos hwn, rydych yn gwybod mai 600 ml yw cyfanswm y 4 rhan o ddŵr.

Nid yw’r math olaf o gwestiwn cymhareb yn rhoi’r cyfanswm inni, nac un rhan o’r gymhareb chwaith. Yn lle hynny, mae’n rhoi’r gwahaniaeth rhwng y rhan gyntaf a’r ail ran o’r gymhareb. Er nad yw un math o gwestiwn cymhareb yn fwy cymhleth na’r lleill, mae’n ddefnyddiol gwybod pa fath rydych chi’n ymdrin ag ef, gan fod y dull i ddatrys pob math o broblem ychydig yn wahanol.