Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 2
Mathemateg bob dydd 2

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

10.3 Datrys problemau cymhareb lle rhoddir cyfanswm un rhan o’r gymhareb

Edrychwch ar yr enghraifft wedi’i chyfrifo isod:

Rydych chi’n tyfu tomatos. Mae’r cyfarwyddiadau ar y bwyd tomatos yn dweud:

  • Defnyddiwch 1 rhan o’r bwyd i 4 rhan o ddŵr

Os ydych yn defnyddio 600 ml o ddŵr, faint o fwyd tomatos ddylech chi ei ddefnyddio?

Mae’r cwestiynau hyn yn gwneud llawer mwy o synnwyr os edrychwch arnyn nhw’n weledol:

Described image
Ffigur 15 Datrys problemau cymhareb i dyfu tomatos

Nawr gallwch weld yn glir bod 600 ml o ddŵr yn werth 4 rhan o’r gymhareb. I ganfod un rhan o’r gymhareb, mae angen ichi wneud:

  • 600 ml ÷ 4 = 150 ml

Gan mai dim ond 1 rhan yw’r bwyd, rhaid ei fod yn 150 ml. Os oedd y bwyd yn fwy nag un rhan, byddech yn lluosi 150 ml â nifer y rhannau.

Fel yn y math blaenorol o gwestiwn, mae angen ichi geisio gweithio allan gwerth 1 rhan. Gellir gweithio allan gwerth unrhyw nifer arall o rannau o hyn.

Gweithgaredd 26: Problemau cymhareb lle rhoddir un rhan

Ymarferwch eich sgiliau trwy roi cynnig ar y problemau cymhareb isod:

  1. Mae rysáit yn dweud bod angen defnyddio blawd a menyn yn y gymhareb 3:5. Defnyddir 700 g o fenyn.

    Faint o flawd fydd ei angen?

Ateb

  1. Blawd:Menyn
    Described image
    Ffigur 16 Defnyddio cymarebau mewn ryseitiau

    I ganfod un rhan, rydych yn gwneud 700 g ÷ 5 = 140 g

    I ganfod faint o flawd mae ei angen, rydych yn gwneud 140 g × 3 = 420 g o flawd.

  1. Wrth ofalu am blant rhwng 7 a 10 oed, rhaid i’r gymhareb oedolion i blant fod yn 1:8.

    • a.Ar gyfer grŵp o 32 o blant, faint o oedolion mae eu hangen?
    • b.Os oedd un plentyn arall yn y grŵp, sut fyddai hyn yn effeithio ar nifer yr oedolion mae eu hangen?

Ateb

  1. Oedolion:Plant
    • a.
      Described image
      Ffigur 17 Gweithio allan y gymhareb o oedolion i blant

      I ganfod un rhan, rydych yn gwneud 32 ÷ 8 = 4.

      Gan mai dim ond 1 rhan yw oedolion, mae arnoch angen 4 oedolyn.

    • b.Os oedd 33 o blant yn y grŵp, byddai un rhan yn 33 ÷ 8 = 4.125.

      Gan na ellir cael 4.125 o oedolion, mae angen ichi dalgrynnu i fyny i 5 oedolyn, felly byddai angen un oedolyn arall ar gyfer 33 o blant.

  1. Mae siop yn cymysgu bagiau o rawnfwyd gan ddefnyddio ceirch, syltanas a chnau yn y gymhareb 6:3:1.

    Os defnyddir 210 g o syltanas, pa mor drwm fydd y bag o rawnfwyd?

Ateb

  1. Ceirch:Syltanas:Cnau

    Ffigur 18 Gweithio allan y gymhareb o geirch, syltanas a chnau

    Mae syltanas yn 3 rhan felly i ganfod 1 rhan rydych yn gwneud 210 g ÷ 3 = 70 g.

    Mae ceirch yn 6 rhan felly 6 × 70 = 420 g.

    Dim ond 1 rhan yw’r cnau, felly maen nhw’n 70 g.

    Cyfanswm pwysau’r bag fyddai 210 g + 420 g + 70 g = 700 g.

Nesaf byddwch yn edrych ar broblemau cymhareb lle dim ond y gwahaniaeth rhwng y symiau a roddir.