Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 2
Mathemateg bob dydd 2

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

10.4 Datrys problemau cymhareb lle rhoddir dim ond y gwahaniaeth rhwng y symiau

Yn gynharach yn yr adran daethoch ar draws y cwestiwn isod. Dewch inni edrych ar sut y gallem ddatrys hyn.

Enghraifft: Datrys meintiau cymhareb o’r gwahaniaeth

Mae Idris ac Annes wedi rhannu arian yn y gymhareb 3:7.

Mae Annes yn cael £20 yn fwy nag Idris. Faint o arian mae Idris yn ei gael?

  • Idris:Annes

        3:7

Rydych chi’n gwybod mai £20 yw’r gwahaniaeth rhwng y swm mae Idris yn ei gael a’r swm mae Annes yn ei gael. Gallwch weld hefyd bod Annes yn cael 7 rhan o’r arian ond dim ond 3 rhan mae Idris yn eu cael.

Felly'r gwahaniaeth rhwng y rhannau yw 7 − 3 = 4. Felly 4 rhan  = £20.

Nawr eich bod wedi canfod hyn, gallwch weithio allan gwerth un rhan trwy wneud:

  • £20 ÷ 4 = £5

Rydych eisiau gwybod faint gafodd Idris, felly rydych yn gwneud:

  • £5 × 3 = £15

Fel gwiriad ychwanegol, gallwch weithio allan rhan Annes trwy wneud:

  • £5 × 7 = £35

Yn wir, mae hyn £20 yn fwy nag Idris.

Gweithgaredd 27: Problemau cymhareb lle rhoddir y gwahaniaeth

Nawr ceisiwch ddatrys y math hwn o broblem drosoch eich hun.

  1. Y gymhareb o beirianwyr benyw i wryw mewn cwmni yw 2:9. Yn yr un cwmni, mae 42 yn fwy o beirianwyr gwryw na benyw.

    Faint o fenywod sy’n gweithio i’r cwmni hwn?

  2. Mae patio mewn gardd yn defnyddio slabiau llwyd a gwyn yn y gymhareb 3:5. Rydych yn archebu 30 yn llai o slabiau llwyd na rhai gwyn.

    Beth oedd cyfanswm y slabiau wnaethoch chi eu harchebu?

Ateb

  1. Y gwahaniaeth mewn rhannau rhwng gwrywod a benywod yw 9 − 2 = 7 rhan.

    Rydych chi’n gwybod bod y 7 rhan = 42 o bobl.

    I ganfod 1 rhan, rydych yn gwneud:

    • 42 ÷ 7 = 6

    Nawr eich bod yn gwybod bod 1 rhan yn werth 6 o bobl, gallwch ganfod nifer y benywod trwy wneud

    • 6 × 2 = 12 o fenywod

    Gwirio:

    • Nifer y gwrywod yw 6 × 9 = 54.

      Y gwahaniaeth rhwng 54 a 12 yw 42.

  2. Y gwahaniaeth mewn rhannau rhwng llwyd a gwyn yw 5 − 3 = 2 ran.

    Mae’r 2 ran yn werth 30. I ganfod 1 rhan, rydych yn gwneud:

    • 30 ÷ 2 = 15

    I ganfod nifer y slabiau llwyd gwnewch:

    • 15 × 3 = 45

    I ganfod nifer y slabiau gwyn gwnewch:

    • 15 × 5 = 75

    Gwirio:

    • Y gwahaniaeth rhwng nifer y slabiau llwyd a’r rhai gwyn yw 30 (75 − 45).

      Nawr eich bod yn gwybod cyfansymiau’r slabiau llwyd a’r rhai gwyn, gallwch ganfod cyfanswm nifer y slabiau trwy wneud:

    •      45 + 75 = cyfanswm o 120 o slabiau.

Er bod ffyrdd gwahanol o ofyn cwestiynau cymhareb, nod unrhyw gwestiwn cymhareb yw pennu gwerth un rhan. Pan fyddwch yn gwybod hyn, mae’n syml i ddod o hyd i’r ateb!

Gellir defnyddio cymhareb mewn ffyrdd llai amlwg hefyd. Dychmygwch eich bod yn pobi sgonau ac mae’r rysáit yn gwneud 12 o sgonau. Fodd bynnag, mae angen ichi wneud 18 o sgonau yn hytrach na 12. Sut ydych chi’n gweithio allan faint o bob cynhwysyn mae arnoch ei angen? Mae’r adran olaf ar gymhareb yn ymdrin â ffyrdd eraill o gymhwyso cymhareb.