Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 2
Mathemateg bob dydd 2

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

10.5 Ffyrdd eraill o gymhwyso cymhareb

Defnydd ymarferol a chyffredin iawn o gymhareb yw newid cyfrannau rysáit. Mae pob rysáit yn nodi sawl dogn mae’n ei wneud, ond yn aml nid hon yw’r nifer mae ei angen. Efallai eich bod eisiau gwneud mwy neu lai na’r nifer a roddir yn y rysáit. Os oeddech eisiau gwneud 18 o sgonau ond dim ond 12 mae’r rysáit yn ei wneud, sut ydych chi’n gwybod faint o bob cynhwysyn i’w ddefnyddio?

  • I wneud 12 o sgonau
  • 400 g o flawd codi
  • 1 llwy fwrdd o siwgr mân
  • 80 g o fenyn
  • 250 ml o laeth
Ffigur 19 Sgonau ar blât

Gan eich bod yn gwybod faint o’r cynhwysion mae ei angen i wneud 12 sgon, mae angen ichi wybod faint o bob un mae ei angen i wneud 6 yn ychwanegol. Gan mai hanner 12 yw 6, os hanerwch bob cynhwysyn, bydd gennych y cynhwysion ar gyfer 6 sgon ychwanegol. I ganfod cyfanswm y cynhwysion ar gyfer 18 o sgonau, mae angen ichi adio’r cynhwysion ar gyfer y 12 sgon a’r 6 sgon at ei gilydd.

Tabl 9
12 sgon6 sgon18 sgon
400 o flawd400 g ÷ 2 = 200 o flawd400 g + 200 g = 600 o flawd
1 llwy fwrdd o siwgr mân1 ÷ 2 = one divided by two llwy fwrdd o siwgr mân1 + one divided by two = 1 one divided by two llwy fwrdd o siwgr mân
80 g o fenyn80 g ÷ 2 = 40 g o fenyn80 g + 40 g = 120 g o fenyn
250 ml o laeth250 ml ÷ 2 = 125 ml o laeth250 ml + 125 ml = 375 ml o laeth

Rhowch gynnig ar y gweithgaredd isod i wirio’ch sgiliau.

Gweithgaredd 28: Cymarebau a ryseitiau

  1. Mae’r rysáit hon yn gwneud 18 o fisgedi:

    • 220 g o flawd codi
    • 150 g o fenyn
    • 100 g o siwgr mân
    • 2 wy
  • Faint o bob cynhwysyn mae ei angen ar gyfer 9 o fisgedi?

Ateb

  1. Gan mai hanner 18 yw 9, mae angen ichi haneru pob cynhwysyn i ganfod faint mae ei angen i wneud 9 o fisgedi.

    • 220g ÷ 2 = 110 g o flawd
    • 150g ÷ 2 = 75 g o fenyn
    • 100g ÷ 2 = 50 g o siwgr
    • 2 ÷ 2 = 1 wy
  1. I wneud ysgytlaeth mefus, mae arnoch angen:
    • 630 ml o laeth
    • 3 llwy o hufen iâ
    • 240 g o fefus
    • Mae’r rysáit yn gwneud digon i 3 o bobl
  • Faint o bob cynhwysyn mae ei angen ar gyfer 9 o bobl?

Ateb

  1. Rydych chi’n gwybod beth yw’r cynhwysion ar gyfer 3 ond rydych eisiau gwybod y cynhwysion ar gyfer 9. Gan fod 9 tair gwaith cymaint â 3, mae angen ichi luosi pob cynhwysyn â 3.
    • 630 ml × 3 = 1890 ml o laeth
    • 3 × 3 = 9 llwy o hufen iâ
    • 240 g × 3 = 720 g o fefus
  1. Rysáit ‘Angel Delight’:
    • Ychwanegwch 60 g o bowdr i 300 ml o laeth oer
    • Mae’r rysáit yn gwneud digon i 2 o bobl
  • Faint o bob cynhwysyn mae ei angen i wneud digon i 5 o bobl?

Ateb

  1. Gallech weithio hyn allan mewn 2 ffordd wahanol.

    Dull 1

    Rydych chi’n gwybod beth yw’r cynhwysion ar gyfer 2 o bobl. Gallwch ganfod y cynhwysion ar gyfer 4 o bobl trwy ddyblu’r cynhwysion i 2. Yna mae arnoch angen y cynhwysion ar gyfer 1 person ychwanegol. Gan mai hanner 2 yw 1, gallwch haneru’r cynhwysion ar gyfer 2 o bobl.

    • 60 g + 60 g + 30 g = 150 g o bowdr
    • 300 ml + 300 ml + 150 ml = 750 ml o laeth

    Dull 2

    Rydych chi’n gwybod beth yw’r cynhwysion ar gyfer 2 o bobl, felly gallwch ganfod y cynhwysion ar gyfer 1 person trwy eu haneru. Yna gallwch luosi’r cynhwysion ar gyfer 1 person â 5.

    • 60g ÷ 2 = 30 × 5 = 150 g o bowdr
    • 300ml ÷ 2 = 150 × 5 = 750 ml o laeth

Gall y ffordd ymarferol olaf o gymhwyso cymarebau fod yn ddefnyddiol iawn pan rydych chi allan yn siopa. Yn aml mae archfarchnadoedd yn ceisio ein hannog ni i brynu swmp o eitemau trwy gynnig pecynnau mwy o faint sy’n rhoi gwell ‘gwerth am arian’. Ond sut allwch chi weithio allan a yw hyn yn fargen dda? Edrychwch ar yr enghraifft isod.

Enghraifft: Cymhareb a siopa

Pa un o’r bocsys isod sy’n cynnig y gwerth gorau am arian?

Described image
Ffigur 20 Opsiynau siopa: te

Mae gwahanol ffyrdd o gymharu’r prisiau.

Dull 1

I weithio allan p’un sy’n cynnig y gwerth gorau am arian, mae angen inni ganfod pris 1 bag te.

Os yw 40 o fagiau te yn costio £1.20, i ganfod cost un bag rydych chi’n gwneud:

£1.20 ÷ 40 = £0.03, neu 3c

Os yw 240 o fagiau te yn costio £9.60, i ganfod cost un bag rydych chi’n gwneud:

£9.60 ÷ 240 = £0.04, neu 4c

Felly mae’r bocs sy’n cynnwys 40 o fagiau yn cynnig gwell gwerth am arian na’r bocs mwy o faint.

Dull 2

Cymhareb y bagiau te yw:

40 : 240 y gallwch ei symleiddio i 1:6

Os ydyn ni’n defnyddio pris y bocs llai, gallwch weld mai 1 rhan yw £1.20

Yna gallwch ddefnyddio’r gwerth hwn i gyfrifo pris y bocs mawr. Am y pris hwn, byddai’r bocs mwy yn £1.20 × 6 = £7.20 felly gallwn weld bod y bocs bach yn cynnig gwell gwerth am arian.

Gweithgaredd 29: Ffyrdd ymarferol o gymhwyso cymhareb

Defnyddiwch y dull sydd orau gennych i weithio allan y fargen orau ym mhob achos.

  1. Gweithiwch allan pa fargen sy’n cynnig y gwerth gorau am arian.

    • a.
      Described image
      Ffigur 21 Opsiynau cola

Ateb

  1.  

    • a.Mae 2 litr yn costio 64 c, felly mae 1 litr yn costio 64 c ÷ 2 = 32c.

      Mae 3 litr yn costio 99c, felly mae 1 litr yn costio 99c ÷ 3 = 33c.

      O gymharu cost 1 litr yn y ddau achos, gwelwn mai’r botel 2-litr sy’n cynnig y gwerth gorau.

  •  

    • b.
      Described image
      Ffigur 22 Opsiynau llaeth

Ateb

  1.  

    • b.Mae 1 peint yn costio 26c.

      Mae’r carton 4-peint yn costio 92c, felly mae 1 peint yn costio 92c ÷ 4 = 23c.

      O gymharu cost 1 peint o laeth ym mhob achos, gwelwn mai’r carton 4-peint sy’n cynnig y gwerth gorau.

  •  

    • c.
      Described image
      Ffigur 23 Opsiynau powdr golchi

Ateb

  1.  

    • c.Mae 5 kg yn costio £10, felly mae 1 kg yn costio £10 ÷ 5 = £2.

      Mae 2 kg yn costio £3, felly mae 1 kg yn costio £3 ÷ 2 = £1.50.

      O gymharu cost 1 kg o bowdr yn y ddau achos, gwelwn mai’r bocs 2 kg sy’n cynnig y gwerth gorau.

  1. Mae dwy archfarchnad yn gwerthu’r un brand o sudd. Mae siop B yn cynnig ‘prynwch un a chael yr ail am hanner pris’ ar sudd afal a ‘prynwch un a chael un am ddim’ ar sudd oren.

    Ar gyfer y ddau fath o sudd, pa siop sy’n cynnig y fargen orau?

    • a.
      Described image
      Ffigur 24 Opsiynau sudd afal

Ateb

  1.  

    • a.Siop A: mae 1 litr yn costio 52c

      Siop B: mae 2 litr yn costio 72c + 36c = 108c (yma rydym yn talu 72c am y litr cyntaf a 36c am yr ail), felly mae 1 litr yn costio 108c ÷ 2 = 54c.

      O gymharu cost 1 litr o sudd afal yn y ddau achos, gwelwn mai Siop A sy’n cynnig y fargen orau.

  •  

    • b.
      Described image
      Ffigur 25 Opsiynau sudd oren

Ateb

  1.  

    • b.Siop A: mae 1 litr yn costio 39c

      Siop B: Mae 2 litr yn costio 76c (rydym yn cael 1 litr am ddim), felly mae 1 litr yn costio: 76c ÷ 2 = 38c.

      O gymharu cost 1 litr o sudd oren yn y ddau achos, gwelwn mai Siop B sy’n cynnig y fargen orau.

  1. Mae archfarchnad yn gwerthu rholiau bara mewn pecynnau o 3 maint gwahanol. Pa faint sy’n cynnig y gwerth gorau am arian?

    Described image
    Ffigur 26 Opsiynau rholiau bara

Ateb

  1. Cyfrifwch gost 1 rhôl ym mhob pecyn:

    • 80c ÷ 4 = 20c

      £2.16 ÷ 12 = £0.18 neu 18c

      £3.42 ÷ 18 = £0.19 neu 19c

    Y pecyn â 12 o roliau sy’n cynnig y gwerth gorau.

Rydych yn awr wedi cwblhau holl elfennau’r adran gymarebau a gobeithio eich bod yn teimlo’n hyderus gyda phob pwnc.

Mae’r adran nesaf o’r cwrs yn ymdrin â fformiwlâu. Efallai bod hyn yn swnio’n gymhleth ond rydych wedi defnyddio fformiwla eisoes. Ydych chi’n cofio dysgu sut i weithio allan newid canrannol eitem? Defnyddioch fformiwla syml i wneud hynny, ac yn awr byddwch yn edrych yn fwy manwl ar fformiwlâu ychydig mwy cymhleth.

Crynodeb

Yn yr adran hon, rydych wedi:

  • dysgu am y tri math gwahanol o broblemau cymhareb ac mai nod unrhyw broblem gymhareb yw canfod faint mae un rhan yn werth.

  • ymarfer datrys pob math o broblem gymhareb:

    • lle rhoddir y cyfanswm
    • lle rhoddir cyfanswm un rhan yn unig
    • lle rhoddir y gwahaniaeth mewn symiau yn unig
  • dysgu am ffyrdd defnyddiol eraill o gymhwyso cymhareb, fel newid cyfrannau rysáit.