11 Fformiwlâu
Cyn dechrau ar y pwnc hwn, mae angen ichi ddysgu am y drefn y mae angen ichi wneud adio, tynnu, lluosi a rhannu ynddi. Ydych chi erioed wedi gweld cwestiwn fel yr un isod ar y cyfryngau cymdeithasol?
Fel arfer, rhoddir amrywiaeth fawr o atebion gan wahanol bobl. Ond sut allai cyfrifiad mor syml achosi cymaint o ddryswch? Mae’n ymwneud â’r drefn rydych yn gwneud y cyfrifiadau ynddi.
- Os ewch o’r chwith i’r dde:
- 7 + 7 = 14
- 14 ÷ 7 = 2
- 2 + 7 = 9
- 9 × 7 = 63
- 63 − 7 = 56
Gwiriwch hyn ar gyfrifiannell a byddwch yn gweld mai 50 yw’r ateb cywir. Sut ydych chi’n cyrraedd yr ateb hwn? Mae’n rhaid ichi ddefnyddio’r drefn weithrediadau gywir, a elwir weithiau CORLAT.