11.1 Trefn gweithrediadau
Mae’r drefn rydych yn gwneud gweithrediadau ynddi yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i’r ateb terfynol. Wrth wneud unrhyw gyfrifiad sy’n golygu gwneud mwy nag un gweithrediad, mae’n rhaid ichi ddilyn rheolau CORLAT er mwyn cyrraedd yr ateb cywir.
Cromfachau
Rhaid gwneud unrhyw gyfrifiad sydd mewn cromfachau yn gyntaf.
Enghraifft::
2 × (3 + 5)
2 × 8 = 16
Noder y gallech ysgrifennu hwn fel 2 (3 + 5) hefyd oherwydd os yw rhif nesaf at gromfach, mae’n golygu bod angen ichi luosi.
Os oes mwy nag un gweithrediad yn y cromfachau, rhaid ichi ddilyn rheolau CORLAT y tu mewn i’r cromfachau.
O: O’r pŵer
Ar ôl gwneud unrhyw gyfrifiadau mewn cromfachau, rhaid ichi ymdrin ag unrhyw gyfrifiadau sy’n cynnwys indecsau neu bwerau h.y.
32 = 3 × 3
neu
43 = 4 × 4 × 4
Enghraifft::
3 × 42
3 × (4 × 4)
3 × 16 = 48
R: Rhannu
Nesaf, unrhyw gyfrifiadau rhannu neu luosi. O’r ddau gyfrifiad hyn, dylech eu gwneud yn y drefn maen nhw’n ymddangos yn y swm, o’r chwith i’r dde.
Enghraifft::
16 − 10 ÷ 5
16 − 2 = 14
Ll: Lluosi
Enghraifft::
5 + 6 × 2
5 + 12 = 17
A: Adio
Yn olaf, gwneir unrhyw gyfrifiadau sy’n cynnwys adio neu dynnu. Eto, dylech wneud y rhain yn y drefn maen nhw’n ymddangos, o’r chwith i’r dde.
T: Tynnu
Enghraifft::
24 + 10 − 2
34 − 2 = 32
neu
24 + 8 = 32
Gweithgaredd 30: Defnyddio CORLAT
Nawr rhowch gynnig ar wneud y cyfrifiadau canlynol. Cofiwch gymhwyso CORLAT!
- 4 + 3 × 2
- 5 (4 − 1)
- 36 ÷ 32
- 7 + 15 ÷ 3 − 4
Ateb
- 4 + 6 = 10
- 5 × 3 = 15
- 36 ÷ 9 = 4
- 7 + 5 − 4 = 8
Nawr eich bod wedi dysgu rheolau CORLAT, rydych yn barod i’w cymhwyso wrth ddefnyddio fformiwlâu.