14 Crynodeb o Sesiwn 1
Rydych yn awr wedi cwblhau Sesiwn 1, ‘Gweithio gyda rhifau’. Os ydych wedi nodi unrhyw feysydd mae angen ichi weithio arnynt, gwnewch yn siŵr eich bod yn cyfeirio’n ôl at yr adran hon o’r cwrs ac yn rhoi cynnig arall ar y gweithgareddau.
Erbyn hyn dylech chi fod yn gallu:
- defnyddio’r pedwar gweithrediad i ddatrys problemau yn eu cyd-destun
- deall talgrynnu ac edrych ar wahanol ffyrdd o wneud hyn
- ysgrifennu rhifau mawr yn llawn ac mewn ffurfiau cryno
- gwneud cyfrifiadau gyda rhifau mawr
- gwneud cyfrifiadau aml-gam
- datrys problemau sy’n cynnwys rhifau negatif
- diffinio rhai termau mathemategol allweddol (lluosrif, lluosrif cyffredin lleiaf, ffactor, ffactor cyffredin a rhif cysefin)
- adnabod lluosrifau cyffredin lleiaf a ffactorau
- defnyddio ffracsiynau, degolion a chanrannau a throsi rhyngddyn nhw
- datrys gwahanol fathau o broblemau cymhareb
- amnewid gwerthoedd mewn fformiwlâu a roddir er mwyn datrys problemau
- defnyddio gweithrediadau gwrthdro ac amcangyfrifon i wirio’ch cyfrifiadau.
Bydd yr holl sgiliau uchod yn eich helpu gyda thasgau bywyd pob dydd. P’un a ydych chi gartref neu yn y gwaith, mae sgiliau rhif yn hanfodol.
Erbyn hyn rydych yn barod i symud ymlaen at Sesiwn 2, ‘Unedau mesur’ [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] .