3.1 Talgrynnu i ryw radd o gywirdeb
Gwyliwch y fideo byr isod i weld enghraifft o sut i dalgrynnu i 1, 2 a 3 lle degol.
Transcript
Gellir defnyddio talgrynnu pan ofynnir ichi roi ateb i radd benodol o gywirdeb. Yr enw ar hyn yw talgrynnu i leoedd degol. Yn y fideo hwn, byddwch yn edrych ar sut i dalgrynnu i un, dau a thri lle degol.
Cymerwch y rhif 25.782. Sut fyddech chi’n ysgrifennu hwn wedi’i dalgrynnu i un lle degol? Dyma’r lle degol cyntaf. Wedi’i dalgrynnu i 1 lle degol, gallai’r rhif fod yn 25.7 neu’n 25.8. Edrychwch ar y digid nesaf at y rhif 7. Os yw’r rhif hwn yn hafal â neu’n fwy na 5, adiwch un arall. Os yw’n llai na 5, gadewch ef. Yn yr achos hwn, mae 8 yn fwy na 5, felly ein rhif wedi’i dalgrynnu i 1 lle degol yw 25.8.
Nawr, dewch inni dalgrynnu rhif i ddau le degol. Un enghraifft gyffredin o wneud hyn mewn bywyd pob dydd yw wrth ymdrin ag arian. Pe baech chi mewn bwyty ac angen rhannu bil o £87.95 rhwng tri pherson, byddech chi’n cyfrifo’r rhannu yn gyntaf. £87.95 wedi’i rannu â 3 yw £29.3166667. Yn amlwg, ni allwch dalu’r union swm hwn. Felly faint fyddech chi’n talu pe bai’r swm i bob person wedi’i dalgrynnu i ddau le degol?
Dyma’r ail le degol. Edrychwch ar y rhif nesaf ato. Ydi’n fwy neu’n hafal i 5? Mae 6 yn fwy na 5, felly mae angen ichi adio 1. Y swm i’w dalu yw £29.32 ceiniog.
Dewch inni roi cynnig ar enghraifft arall. Sut fyddech chi’n talgrynnu’r rhif 35.496 i ddau le degol? Dyma’r ail le degol. Edrychwch ar y rhif nesaf ato. Mae 6 yn fwy na 5, felly mae angen ichi adio un arall. Yn yr achos hwn, y rhif wedi’i dalgrynnu fyddai 35.50.
Allwch chi dalgrynnu i dri lle degol? Rhowch gynnig ar y rhif hwn: 412.5762. Y rhif nesaf at y trydydd lle degol yw 2, sy’n llai na 5. Mae hyn yn golygu mai’r rhif wedi’i dalgrynnu’n gywir yw 412.576.
Cofiwch y rhigwm talgrynnu hwn i’ch helpu:
Gweithgaredd 8: Sgiliau talgrynnu
Ymarferwch eich sgiliau talgrynnu trwy gwblhau’r isod.
Beth yw 24.638 wedi’i dalgrynnu i un lle degol?
Beth yw 13.4752 wedi’i dalgrynnu i ddau le degol?
Beth yw 203.5832 wedi’i dalgrynnu i ddau le degol?
Beth yw 345.6794 wedi’i dalgrynnu i dri lle degol?
Beth yw 3.65 wedi’i dalgrynnu i’r rhif cyfan agosaf?
Beth yw £199.755 i’r geiniog agosaf?
Beth yw £37.865 i’r bunt agosaf?
Beth yw 61.607 kg i’r kg agosaf?
Ateb
24.6
13.48
203.58
345.679
4
£199.76
£38
62 kg