Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 2
Mathemateg bob dydd 2

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

7.3 Ffracsiynau o symiau

Gellir canfod ffracsiynau o symiau trwy ddefnyddio’ch sgiliau lluosi a rhannu. I weithio allan ffracsiwn o unrhyw swm, yn gyntaf rydych yn rhannu’r swm â’r rhif ar waelod y ffracsiwn – yr enwadur. Mae hwn yn rhoi 1 darn ichi.

Yna rydych yn lluosi’r ateb hwnnw â’r rhif ar dop y ffracsiwn – y rhifiadur.

Mae’n werth nodi yma os mai 1 yw’r rhif ar dop y ffracsiwn, ni fydd lluosi’r ateb yn ei newid, felly does dim angen y cam hwn. Edrychwch ar yr enghreifftiau isod.

Enghraifft: Rhannu â’r enwadur

Dull

I ganfod one divided by five o 90 rydym yn gwneud 90 ÷ 5 = 18.

Gan mai 1 yw’r rhif ar dop y ffracsiwn, does dim angen lluosi 18 â 1 gan na fydd yn newid yr ateb.

Felly one divided by five o 90 = 18.

Enghraifft: Lluosi â’r rhifiadur

Dull

I ganfod four divided by seven o 42 rydym yn gwneud 42 ÷ 7 = 6.

Mae hyn yn golygu bod one divided by seven o 42 = 6.

Gan eich bod eisiau four divided by seven o 42, yna rydym yn gwneud 6 × 4 = 24.

Felly four divided by seven o 42 = 24.

Dewch inni fynd nôl i’r siaced a’i phris gwreiddiol o £80, sydd yn y sêl gyda gostyngiad two divided by five o. Sut ydych chi’n canfod faint mae’n ei gostio? Yn gyntaf, mae angen ichi ganfod two divided by five o 80. I gyfrifo hyn, rydych yn gwneud:

  • £80 ÷ 5 = £16 ac yna £16 × 2 = £32

Mae hyn yn golygu eich bod yn arbed £32 ar bris y siaced. I ganfod faint byddwch yn ei dalu, mae angen ichi wneud £80 − £32 = £48.

Byddwch wedi ymarfer dod o hyd i ffracsiynau o symiau yn y cwrs Mathemateg Pob dydd 1, ond rhowch gynnig ar y gweithgaredd canlynol i’ch atgoffa’ch hun o’r sgil pwysig hwn.

Gweithgaredd 16: Canfod ffracsiynau o symiau

Gweithiwch allan y canlynol heb ddefnyddio cyfrifiannell. Gallwch ddefnyddio cyfrifiannell i wirio os oes angen, a chofiwch wirio’ch atebion yn erbyn ein hatebion ni.

  1. Rydych yn ystyried prynu yswiriant tŷ ac eisiau cael y fargen orau. Rhowch y cynigion canlynol yn eu trefn, o’r rhataf i’r drutaf, ar ôl cymhwyso’r disgownt.

Tabl 7
Cwmni A Cwmni B Cwmni C

£120 y flwyddyn

£147 y flwyddyn

£104 y flwyddyn

Cynnig arbennig: gostyngiad o one divided by three

Cynnig arbennig: gostyngiad o two divided by seven

Cynnig arbennig: gostyngiad o one divided by four

Ateb

  1. Cwmni C yw’r rhataf:

    • one divided by four o £104 = £104 ÷ 4 = disgownt o £26

    • £104 − £26 = £78

    Cwmni A yw’r rhataf ond un:

    • one divided by three o £120 = £120 ÷ 3 = disgownt o £40

      £120 − £40 = £80

    Cwmni B yw’r drutaf:

    • two divided by seven o £147 = £147 ÷ 7 × 2 = disgownt o £42

    • £147 − £42 = £105

  1. Mae sinema’n gwerthu 2400 o docynnau dros benwythnos. Maen nhw’n adolygu’r gwerthiannau ac yn canfod bod two divided by three o’r tocynnau wedi’u gwerthu i oedolion. Faint o docynnau a werthwyd i oedolion?

Ateb

  1. Gwerthwyd 1600 o docynnau i oedolion:

    • 2400 ÷ 3 = 800 i roi one divided by three

    • 2 × 800 = 1600 i roi two divided by three

  1. Mae coleg wedi codi three divided by five o’i darged i godi £40 000 i elusen. Faint o arian mae angen i’r coleg ei godi i gyrraedd ei darged?

Ateb

  1. Mae angen £16 000 i gyrraedd y targed.

    40 000 ÷ 5 = 8000 i roi one divided by five

    8000 × 3 = 24 000 i roi three divided by five (y swm a godwyd)

    Ond mae’r cwestiwn yn gofyn faint mae ei angen i gyrraedd y targed, felly mae angen inni dynnu’r swm a godwyd o’r targed:

    • 40 000 − 24 000 = £16 000

Nid yw gostyngiadau a chynigion arbennig bob amser yn cael eu hysbysebu gan ddefnyddio ffracsiynau. Weithiau, byddwch yn gweld hysbysebion yn nodi gostyngiad o 10% neu 15%. Maes cyffredin arall o fywyd pob dydd lle byddwn yn gweld canrannau yw pan fydd cwmnïau’n ychwanegu TAW o 20% i eitemau neu pan fydd bwyty’n ychwanegu ffi gwasanaeth o 12.5%. Mae’r adran nesaf yn edrych ar beth yw canrannau a sut i’w cyfrifo.

Crynodeb

Yn yr adran hon, rydych wedi:

  • dysgu sut i fynegi rhywfaint o faint ar ffurf ffracsiwn

  • dysgu sut i symleiddio ffracsiynau, ac wedi ymarfer gwneud hyn

  • adolygu’ch gwybodaeth am ganfod ffracsiynau o symiau.