Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 2
Mathemateg bob dydd 2

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

9.2 Newid ffracsiwn yn ganran

Mae yna ddwy ffordd o wneud hyn.

Dull 1

I newid ffracsiwn yn ganran, lluoswch ef â 100 divided by one (yn y bôn, rydych yn lluosi’r rhif top â 100 a bydd y rhif gwaelod yn aros yr un peth).

Enghraifft: Newid three divided by four yn ganran

three divided by four × 100 divided by one = 300 divided by four

Mae hwn yn canslo i 75 divided by one = 75%

Noder: Cofiwch fod unrhyw beth dros 1 yn rhif cyfan. Os na fydd gennych 1 ar y gwaelod, bydd rhaid ichi rannu’r rhif top â’r rhif gwaelod i gael eich ateb terfynol.

Dull 2

Rhannwch dop y ffracsiwn â’r gwaelod (i fynegi’r ffracsiwn fel degolyn) ac yna lluosi’r ateb â 100.

Enghraifft: three divided by four = 3 ÷ 4 = 0.75

Described image
Ffigur 12 Wedi’i fynegi fel degolyn: 3 ÷ 4
  • 0.75 × 100 = 75%

Gweithgaredd 22: Newid ffracsiwn yn ganran

  1. Mynegwch y ffracsiynau hyn fel canrannau:

    • a.three divided by eight

       

    • b.nine divided by 10

       

    • c.four divided by five

Ateb

  1.  

    • a.37.5%

    • b.90%

    • c.80%

Nawr byddwch yn edrych ar newid ffracsiwn yn ddegolyn.