9.3 Newid ffracsiwn yn ddegolyn
Eto, mae yna ddwy ffordd o wneud hyn, y ddwy wedi’u seilio ar y ddau ddull uchod ar gyfer newid ffracsiwn yn ganran.
Dull 1
Enghraifft: Newid y ffracsiwn yn ganran a rhannu â 100
× = sy’n canslo i = 25%
Nawr troswch i ddegolyn trwy rannu â 100:
25 ÷ 100 = 0.25
Gweithgaredd 23: Newid ffracsiwn yn ddegolyn.
Mynegwch y ffracsiynau hyn fel degolion:
Ateb
0.4
0.125
0.3
Mae ffracsiynau a chanrannau’n ymdrin â hollti rhifau’n nifer benodol o gyfrannau, neu rannau cyfartal. Wrth ymdrin â’r pwnc nesaf sef cymhareb, byddwch yn rhannu meintiau’n nifer benodol o rannau, ond wrth rannu mewn cymhareb, nid ydych yn rhannu’n gyfartal. Efallai ei fod yn swnio’n gymhleth, ond byddwch wedi bod yn gwneud hyn ers ichi fod yn blentyn.
Crynodeb
Yn yr adran hon, rydych wedi:
dysgu am y berthynas rhwng ffracsiynau, degolion a chanrannau, a nawr yn gallu trosi rhwng y tri.