Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 2
Mathemateg bob dydd 2

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Sesiwn 1: Gweithio gyda rhifau

Cyflwyniad

Mae dealltwriaeth o rifau’n rhoi ichi’r sgiliau sylfaenol mae arnoch eu hangen i ymdrin â llawer iawn o fywyd pob dydd. Yn y sesiwn hwn, byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio pob un o’r pedwar gweithrediad mathemategol a sut maen nhw’n berthnasol mewn sefyllfaoedd bywyd go iawn. Yna byddwch yn dod ar draws ffracsiynau a chanrannau, sy’n hynod o ddefnyddiol pan fyddwch yn ceisio gweithio allan pris eitem sydd ar gynnig arbennig. Hefyd, byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio cymarebau - sy’n ddefnyddiol os ydych yn pobi - a sut i weithio gyda fformiwlâu.

Drwy gydol y cwrs, bydd amrywiaeth o weithgareddau ichi eu cwblhau er mwyn gwirio’ch sgiliau. Nodir atebion y gweithgareddau, ynghyd ag awgrym o waith cyfrifo. Mae’n bwysig gwybod bod, yn aml, lawer o ffyrdd o weithio allan yr un cyfrifiad. Mae’n hollol iawn os byddwch yn cyrraedd yr un ateb, ond bod eich gwaith cyfrifo yn wahanol i’r hyn a ddangosir. Os oes angen ichi atgoffa’ch hun o’r dulliau ysgrifenedig ar gyfer adio, tynnu, lluosi a rhannu, ewch i’r adran â’r rhif perthnasol yn Mathemateg Pob dydd 1.

Os hoffech ymarfer eich sgiliau mathemategol ymhellach, cysylltwch â’ch coleg lleol i drafod yr opsiynau sydd ar gael.

Erbyn diwedd y sesiwn hwn, byddwch yn gallu:

  • defnyddio’r pedwar gweithrediad i ddatrys problemau yn eu cyd-destun
  • deall talgrynnu ac edrych ar wahanol ffyrdd o wneud hyn
  • ysgrifennu rhifau mawr yn llawn ac mewn ffurfiau cryno
  • gwneud cyfrifiadau gyda rhifau mawr
  • gwneud cyfrifiadau aml-gam
  • datrys problemau sy’n cynnwys rhifau negatif
  • diffinio rhai termau mathemategol allweddol (lluosrif, lluosrif cyffredin lleiaf, ffactor, ffactor cyffredin a rhif cysefin)
  • adnabod lluosrifau cyffredin lleiaf a ffactorau
  • defnyddio ffracsiynau, degolion a chanrannau, a throsi rhyngddyn nhw
  • datrys gwahanol fathau o broblemau cymhareb
  • amnewid gwerthoedd mewn fformiwlâu a roddir er mwyn datrys problemau
  • defnyddio gweithrediadau gwrthdro ac amcangyfrifon i wirio’ch cyfrifiadau.
Download this video clip.Video player: a69_numbers.mp4
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
 
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).