1 Unedau mesur
Yn syml, uned mesur yw’r hyn rydych chi’n mesur rhywbeth ag ef a byddwch eisoes yn gyfarwydd â defnyddio centimetrau, metrau, cilogramau, gramau, litrau a mililitrau i fesur. Wrth fesur rhywbeth, mae angen ichi ddewis yr uned mesur briodol i’r eitem rydych yn ei mesur. Er enghraifft, fyddech chi ddim yn mesur hyd ystafell mewn milimetrau. Rhowch gynnig ar y gweithgaredd byr isod a dewiswch yr uned fwyaf priodol ar gyfer pob enghraifft.
Gweithgaredd 1: Dewis yr uned
Gan ddefnyddio'r ddwy restr ganlynol, parwch bob eitem sydd wedi'i rhifo â'r llythyren gywir.
Mililitrau (ml)
Metrau (m)
Cilogramau (kg)
Gramau (g)
Centimetrau (cm)
Litrau (l)
a.Hyd sgrin cyfrifiadur
b.Pwysau wy
c.Pwysau ci
d.Maint y dŵr mewn pwll padlo
e.Hyd ffens yn yr ardd
f.Maint yr hylif mewn gwydryn
- 1 = f
- 2 = e
- 3 = c
- 4 = b
- 5 = a
- 6 = d
Gobeithio eich bod wedi cael y gweithgaredd yn weddol syml. Nesaf byddwch yn edrych yn fanylach ar rai unedau mesur a sut i drosi rhyngddynt.