2.1 Trosi mathau o arian cyfred
Yn aml pan rydych mewn gwlad dramor, neu’n prynu rhywbeth o’r rhyngrwyd o wlad arall, rhoddir y pris mewn math gwahanol o arian cyfred. Byddwch eisiau gallu gweithio allan faint mae’r eitem yn costio yn eich arian cyfred chi fel y gallwch wneud penderfyniad ynghylch prynu’r eitem neu beidio. Wrth newid arian ar gyfer gwyliau, efallai hefyd y bydd angen ichi weithio allan faint o arian cyfred a gewch am y swm o bunnoedd sterling rydych yn ei newid.
Edrychwn ar enghraifft.
Enghraifft: Punnoedd ac ewros
I drosi rhwng punnoedd ac ewros, y peth cyntaf mae angen ichi wybod yw’r gyfradd gyfnewid. Mae cyfraddau cyfnewid yn newid pob dydd. Er hynny, os rhoddir cwestiwn trosi arian cyfred ichi, fe gewch y gyfradd gyfnewid i’w defnyddio. Yn yr enghraifft hon byddwn yn defnyddio’r gyfradd gyfnewid:
- £1 = €1.15
Felly, sut ydych chi’n trosi?
Dull
Edrychwch ar y diagram isod. Er mwyn mynd o 1 i 1.15, rhaid ichi luosi ag 1.15. Yn dilyn hynny, i fynd o 1.15 i 1, rhaid ichi rannu ag 1.15.
Er mwyn mynd o bunnoedd i ewros felly, rydych chi’n lluosi ag 1.15 ac i drosi o ewros i bunnoedd, rydych chi’n rhannu ag 1.15.
a.Rydych chi’n penderfynu y byddwch yn newid £300 i ewros ar gyfer eich gwyliau. Gan ddefnyddio’r gyfradd gyfnewid £1 = €1.15, faint o ewros gewch chi?
Gan gyfeirio’n ôl at y diagram uchod, rydych eisiau trosi o bunnoedd i ewros yn yr enghraifft hon felly mae’n rhaid ichi luosi ag 1.15.
Fodd bynnag, ni fydd gennych ddiagram i gyfeirio ato bob amser sy’n golygu y bydd angen ichi allu penderfynu drosoch eich hun a oes angen ichi luosi â’r gyfradd trosi neu rannu â hi. Nawr fe edrychwn ar y dull i’ch helpu i wneud hyn.
Dull
Ysgrifennwch eich cyfradd trosi i lawr gyda’r uned sengl ar yr ochr chwith:
- £1 = €1.15
Nesaf, rydych yn ysgrifennu’r ffigur rydych chi’n ei drosi i lawr o dan yr ochr gywir. Yn yr achos hwn dyma’r £300 mewn arian parod rydych chi’n ei newid, felly mae angen i’r ffigur hwn fynd o dan ochr y punnoedd (£):
- £1 = €1.15
- £300 = €?
Bydd hyn yn eich helpu i weithio allan a oes angen ichi fynd tuag ymlaen (os felly rydych yn lluosi â’r gyfradd trosi) neu tuag yn ôl (os felly rydych yn rhannu â’r gyfradd trosi).
Yma, rydych chi’n trosi o bunnoedd i ewros. Mae hyn yn golygu eich bod yn mynd tuag ymlaen felly mae angen ichi luosi â’r gyfradd trosi:
- £1 = €1.15
- £300 = €?
- → tuag ymlaen →
Felly, mae’n rhaid ichi luosi ag 1.15:
- £300 × 1.15 = €345
Dewch inni gymhwyso’r dull i enghraifft arall.
b.Rydych chi yn Sbaen ac eisiau prynu swfenîr. Y pris yw €35 (35 ewro). Rydych yn gwybod bod £1 = €1.15.
Dull
Ysgrifennwch y gyfradd trosi i lawr yn gyntaf gyda’r uned mesur sengl (yr 1) ar yr ochr chwith.
- £1 = €1.15
Nesaf, ysgrifennwch y ffigur rydych chi’n ei drosi i lawr o dan yr ochr gywir. Yn yr achos hwn dyma gost y swfenîr (£35), felly mae angen i’r ffigur hwn fynd ar ochr yr ewros (€):
- £1 = €1.15
- £? = €35
Yma, rydych chi’n trosi o ewros i bunnoedd. Mae hyn yn golygu eich bod yn mynd tuag yn ôl felly mae angen ichi rannu â’r gyfradd trosi:
- £? = €35
- ← tuag yn ôl ← felly rhannu
- €35 ÷ 1.15 = £30.43 (wedi’i dalgrynnu i ddau le degol)
Cyn ichi roi cynnig ar rai drosoch eich hun, edrychwn ar un enghraifft arall. Y tro hwn mae’n ymwneud â phunnoedd a doleri.
Enghraifft: Punnoedd a doleri
a.Rydych eisiau prynu eitem o America. Y gost yw $120. Rydych yn gwybod bod £1 = $1.30. Faint mae’r eitem yn costio mewn punnoedd?
Dull
Yn yr un modd ag o’r blaen, gallwch weld o’r diagram, er mwyn mynd o ddoleri i bunnoedd mae’n rhaid ichi rannu ag 1.30.
Felly i weithio allan $120 mewn punnoedd, rydych chi’n gwneud:
- $120 ÷ 1.30 = £92.31 (wedi’i dalgrynnu i ddau le degol)
I weithio hyn allan heb gymorth diagram, ysgrifennwch eich cyfradd trosi i lawr:
- £1 = $1.30
Nawr ysgrifennwch y ffigur rydych eisiau ei drosi (yn yr achos hwn y $120) i lawr o dan yr ochr gywir:
- £1 = $1.30
- £? = $120
Gan eich bod yn trosi o ddoleri i bunnoedd, rydych chi’n mynd tuag yn ôl felly mae angen rhannu ag 1.30:
- $120 ÷ 1.30 = £92.31 (wedi’i dalgrynnu i ddau le degol)
b.Rydych chi’n anfon £20 at berthynas yn America am ei ben-blwydd. Mae angen ichi anfon yr arian mewn doleri. Faint ddylech chi ei anfon?
Dull
I drosi o bunnoedd i ddoleri, mae angen ichi ysgrifennu’ch cyfradd trosi i lawr:
- £1 = $1.30
Nawr ysgrifennwch y ffigur rydych eisiau ei drosi (yn yr achos hwn yr £20) i lawr o dan yr ochr gywir:
- £1 = $1.30
- £20 = $?
Gan eich bod yn trosi o bunnoedd i ddoleri, rydych chi’n mynd tuag ymlaen felly mae angen lluosi ag 1.30:
- £20 × 1.30 = $26
Mae angen ichi anfon $26.
Crynodeb o’r dull
Ysgrifennwch eich cyfradd trosi i lawr yn gyntaf, gan wneud yn siŵr y rhowch yr uned sengl (yr 1) ar yr ochr chwith. Bydd hyn yn ei gwneud yn haws penderfynu a oes angen ichi luosi â’r gyfradd trosi neu rannu â hi.
Os ydych chi’n mynd tuag ymlaen, rydych chi’n lluosi â’r gyfradd trosi.
- Os ydych chi’n mynd tuag yn ôl, rydych chi’n rhannu â’r gyfradd trosi.
Gweithgaredd 4: Trosi arian cyfred
Cyfrifwch yr atebion i’r cwestiynau canlynol heb ddefnyddio cyfrifiannell. Gallwch ail-wirio’ch atebion gyda chyfrifiannell os oes angen.
- Mae Sarah yn gweld bag llaw ar werth ar long mordaith am €80. Mae’n gweld yr un bag llaw ar lein am £65. Mae eisiau talu’r pris isaf posibl am y bag. Ar y diwrnod hwnnw y gyfradd gyfnewid yw £1 = €1.25. O ble ddylai hi brynu’r bag?
- Mae Josh yn mynd i Dde Affrica ac mae eisiau newid £250 i rand. Mae’n gwybod bod £1 = 18.7 rand. Sawl rand fydd yn ei gael am ei arian?
- Mae Alys yn dod yn ôl o America ac mae ganddi $90 dros ben i’w newid yn ôl i bunnoedd. O gofio mai £1 = $1.27 yw’r gyfradd gyfnewid, faint o bunnoedd fydd Alys yn eu cael? Rhowch eich ateb wedi’i dalgrynnu i ddau le degol.
Ateb
Ar gyfer y cwestiwn hwn gallwch naill ai drosi o £ i € neu o € i £.
Trosi o £ i €:
- £1 = €1.25
- £65 = €?
Gan eich bod yn trosi o bunnoedd i ewros, rydych chi’n mynd tuag ymlaen felly mae angen lluosi ag 1.25:
- £65 × 1.25 = €81.25
Dylai Sarah brynu’r bag ar y llong.
Trosi o € i £:
- £1 = €1.25
- £? = €80
Gan eich bod yn trosi o ewros i bunnoedd, rydych chi’n mynd tuag yn ôl felly mae angen rhannu ag 1.25:
- €80 ÷ 1.25 = £64
Dylai Sarah brynu’r bag ar y llong.
Mae angen ichi drosi o £ i rand felly rydych chi’n gwneud:
- £1 = 18.7 rand
- £250 = ? rand
Gan eich bod yn trosi o bunnoedd i rand rydych chi’n mynd tuag ymlaen felly mae angen lluosi â 18.7:
£250 × 18.7 = 4675 rand
Mae angen ichi drosi o $ i £ felly rydych chi’n gwneud:
£1 = $1.27
£? = $90
Gan eich bod yn trosi o ddoleri i bunnoedd, rydych chi’n mynd tuag yn ôl felly mae angen rhannu ag 1.27:
$90 ÷ 1.27 = £70.87 (wedi’i dalgrynnu i ddau le degol)
Gobeithio eich bod, erbyn hyn, yn teimlo’n hyderus wrth drosi rhwng mathau o arian cyfred. Mae’r rhan nesaf o’r adran hon yn ymdrin â throsi unedau mesur eraill rhwng systemau gwahanol – centimetrau i fodfeddi, pwysau i gilogramau ac ati. Mae’r trosiadau hyn yn anhygoel o debyg i drosi arian cyfred a rhoddir y gyfradd trosi ichi bob amser felly nid oes rhaid ichi ei chofio.