Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 2
Mathemateg bob dydd 2

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3 Amser, amserlenni a chyflymder cyfartalog

Yn aml bernir bod cyfrifo ag amser yn anodd. Nid yw hynny’n syndod, mewn gwirionedd, o gofio pa mor anodd y gall fod i ddysgu dweud yr amser. I lawer o bobl, mae cyfrifo gydag amser yn anodd oherwydd, yn wahanol i bron pob cysyniad mathemategol arall, nid yw’n gweithio mewn 10au. Mae amser yn gweithio mewn 60au – 60 eiliad mewn munud, 60 munud mewn awr. Felly ni allwch ddefnyddio’ch cyfrifiannell i adio neu dynnu amser.

Ffigur 13 Cloc larwm radio

Meddyliwch am yr enghraifft syml hon. Os yw’n 9:50 ac mae’ch bws yn cymryd 20 munud i gyrraedd y gwaith, ni allwch weithio allan pa amser y byddwch yn cyrraedd trwy wneud 950 + 20 ar eich cyfrifiannell. Byddai hyn yn rhoi ateb o 970 neu 9:70 – does ’na ddim y fath amser!

Bydd angen ichi gyfrifo gydag amser a defnyddio amserlenni mewn bywyd pob dydd i gyflawni tasgau sylfaenol fel cyrraedd y gwaith yn brydlon, gweithio allan pa fws neu drên i’w ddal, codi’ch plant o’r ysgol yn brydlon, coginio a chynifer o dasgau pob dydd eraill.