Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 2
Mathemateg bob dydd 2

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

5.2 Graddfeydd ac offer mesur

Nawr eich bod wedi gweithio trwy rai enghreifftiau, rhowch gynnig ar y gweithgareddau canlynol.

Gweithgaredd 10: Darllen graddfeydd

  1. Darllenwch y graddfeydd isod a chanfyddwch y gwerthoedd mae’r saethau’n pwyntio atynt ar gyfer (a), (b) ac (c).

    Described image
    Ffigur 25 Graddfa gyda chyfyngau wedi’u rhifo pob cant sy’n mynd o 100 i 400

Ateb

  1. Mae’r raddfa’n codi fesul camau o 20 (mae’r marcwyr wedi’u rhifo’n codi fesul cyfyngau o 100 ac mae 5 cam bach rhwng pob marciwr wedi’i rifo: 100 ÷ 5 = 20) felly yr atebion yw:

    • a.160

    • b.Mae hwn hanner ffordd rhwng 240 a 260 felly 250 yw’r ateb

    • c.380

  1. Darllenwch y gwerthoedd ar gyfer (a), (b) ac (c) ar y graddfeydd isod.

    Described image
    Ffigur 26 Graddfa gyda chyfyngau wedi’u rhifo pob cant sy’n mynd o 1200 i 1500

Ateb

  1.  

    • a.1250

    • b.1325

    • c.1475

  1. Darllenwch y gwerthoedd ar gyfer (a), (b) (c) a (d) ar y graddfeydd isod.

    Described image
    Ffigur 27 Graddfa gyda chyfyngau sengl wedi’u rhifo o 0 – 3

Ateb

  1.  

    • a.0.5

    • b.1.6

    • c.2.3

    • d.Mae’r saeth yn pwyntio at hanner ffordd rhwng 2.6 a 2.7 felly 2.65 yw’r darlleniad.

  1. Darllenwch y gwerthoedd ar gyfer (a), (b) ac (c) ar y graddfeydd isod.

    Described image
    Ffigur 28 Graddfa gyda chyfyngau wedi’u rhifo pob 5 gan fynd o 0 i 15

Ateb

  1.  

    • a.1.0 (neu 1 yn syml)

    • b.7.5

    • c.11.5

Nawr rhowch gynnig ar ddarllen y graddfeydd ar yr offer mesur gwahanol.

Gweithgaredd 11: Offer mesur

  1. Faint o ddŵr sydd ar ôl yn y botel, i’r 50 mililitr (ml) agosaf?

    Described image
    Ffigur 29 Potel ddŵr â graddfa ar yr ochr a dŵr y tu mewn iddi

Ateb

  1. Mae’r botel yn dal 1 litr o hylif i gyd. Mae 10 cam mawr wedi’u marcio ar y botel felly mae pob un yn marcio 100 ml (1 litr = 1000 ml and 1000 ÷ 10 = 100).

    Hanner ffordd rhwng pob cam mawr mae cam bach felly mae pob un o’r rhain yn marcio 50 ml.

    Mae hyn yn golygu bod 250 ml o ddŵr ar ôl yn y botel i’r 50 ml agosaf.

  1. Mae Sara yn pwyso ei chês gan ddefnyddio clorian bagiau. Mae ganddi derfyn pwysau o 21 kg. Faint rhagor all hi ei bacio i’r 100 gram agosaf?

    Described image
    Ffigur 30 Clorian bagiau yn pwyso bag

Ateb

  1. I ateb y cwestiwn hwn mae angen ichi gofio bod 1 kg = 1000 g.

    Mae’r glorian wedi’i rhifo ar bob cyfwng 1 kg ac mae 10 cam rhwng pob cyfwng wedi’i rifo, felly mae pob cam yn marcio 0.1 kg (1 ÷ 10 = 0.1). Gallech hefyd ystyried bod pob marciwr yn 100 g (0.1 kg = 100 g).

    Mae’r saeth bron ar 19.8 kg (19 800 g). Os oes gan Sara derfyn pwysau o 21 kg yna:

    21 kg − 19.8 kg = 1.2 kg (21 000 g − 19 800 g = 1200 g)

    Gall Sara bacio gwerth 1.2 kg (neu 1200 g) yn rhagor o bethau yn ei bag.

  1. Mae angen i Simon bwyso allan 4 kg o datws. Gan edrych ar y darlleniad ar y glorian, sawl gram arall o datws mae angen iddo eu hychwanegu i wneud 4 kg?

    Described image
    Ffigur 31 Clorian bwyd yn pwyso tatws

Ateb

  1. Fel yn achos Cwestiwn 2, mae angen ichi gofio bod 1 kg = 1000 g.

    Mae’r glorian wedi’i rhifo ar bob cyfwng 1 kg ac mae 10 cam rhwng pob marciwr wedi’i rifo, felly mae pob cam yn marcio 0.1 kg (1 ÷ 10 = 0.1). Gallech hefyd ystyried bod pob cam yn 100 g (0.1 kg = 100 g).

    Mae’r saeth yn pwyntio at 3.8 kg (neu 3800 g).

    Os oes ar Simon angen 4 kg (4000 g) o datws, yna mae angen iddo bwyso allan 200 g yn rhagor.

Gobeithio eich bod yn teimlo’n hyderus wrth ddarllen graddfeydd ar offer mesur nawr sy’n eich arwain yn dwt at yr adran nesaf sy’n edrych ar raddfeydd trosi.