5.3 Defnyddio graddfeydd trosi
Yn gynharach yn y sesiwn buoch yn edrych ar drosi rhwng unedau mesur mewn systemau gwahanol trwy wneud cyfrifiadau.
Mae gan lawer o offer mesur (e.e. thermomedrau, prennau mesur, jygiau mesur) raddfeydd sy’n dangos dwy neu ragor o unedau mesur gwahanol. Mae hyn yn golygu y gall fod adegau pan allwch gymharu’r graddfeydd ar yr offeryn mesur er mwyn gwneud trosiad yn hytrach na gwneud cyfrifiad.
Edrychwch ar yr enghraifft ganlynol.
Mae gan y thermomedr uchod raddfa i lawr yr ochr chwith sy’n dangos graddau Celsius (°C) a graddfa ar y dde sy’n dangos graddau Fahrenheit (°F). Mae hyn yn golygu y gallwch gymryd darlleniad ar y thermomedr hwn yn y ddwy uned mesur, gan ddibynnu pa un mae ei hangen neu pa un rydych chi’n fwyaf cyfarwydd â hi. Gall hefyd eich helpu i chwilio am drosiadau rhwng unedau.
Mae angen ichi fod yn ofalus gyda phob graddfa, er hynny – gan eu bod yn dangos unedau gwahanol, maen nhw wedi’u marcio’n wahanol ac yn codi mewn camau gwahanol.
Ar y thermomedr hwn, mae’r raddfa graddau Celsius yn codi mewn camau o 1°C, felly y tymheredd sy’n cael ei ddangos yw 38°C. Os ydych chi eisiau cymryd y darlleniad mewn graddau Fahrenheit, gallwch weld mai 100°F yw ef (mae’r raddfa’n codi mewn camau o 2°F). Gall fod yn anodd cael cymhariaeth fanwl rhwng unedau, ond gan ddefnyddio’r thermomedr hwn, gallwn ddweud fod 38°C yn 100°F yn fras.
Nawr rhowch gynnig ar y gweithgaredd canlynol.
Gweithgaredd 12: Defnyddio graddfeydd trosi
Edrychwch ar y glorian isod ac atebwch y cwestiynau sy’n dilyn.
Beth yw’r darlleniad a ddangosir gan y saeth mewn gramau?
Sawl owns yw 200 g, i’r owns gyfan agosaf?
Yn fras, sawl gram yw 1 owns, i’r 10 g agosaf?
Rwy’n gweld rysáit sy’n dweud bod arnaf i angen 6 owns o flawd. Yn fras, sawl gram o flawd yw hyn?
Ateb
Dangosir gramau (g) ar y tu allan i’r raddfa a dangosir ownsys (owns) ar y tu mewn.
Mae’r saeth yn pwyntio at 70 g (mae’r raddfa’n codi mewn camau o 5).
Mae angen ichi edrych ar y tu allan i’r raddfa i ganfod 200 g ac yna edrych ar y tu mewn i weld sawl owns gyfan mae agosaf iddi.
Yr owns gyfan agosaf yw 7 owns..
Dewch o hyd i’r 1 owns gyntaf ar y tu mewn i’r raddfa. Nawr edrychwch ar y tu allan i gymryd y darlleniad hwn mewn gramau. Y marciwr agosaf yw 30 gram (mae’r raddfa gramau’n codi mewn camau o 5) felly 30 g yn fras yw 1 owns.
Chwiliwch ar y tu mewn i’r raddfa am 6 owns. Yna cymerwch y darlleniad cyfwerth mewn gramau o’r tu allan i’r raddfa. 170 g yn fras yw 6 owns.
Rydych yn awr wedi dysgu popeth mae angen ichi ei wybod am unedau mesur! Os ydych chi’n teimlo’n ansicr ynghylch unrhyw ran o’r adran hon, mae croeso ichi gyfeirio’n ôl at yr enghreifftiau neu weithgareddau eto i wneud yn siŵr eich bod yn teimlo’n sicr ynghylch pob maes. Y cwbl sydd ar ôl o’r adran hon yw’r cwis diwedd sesiwn. Pob lwc!
Crynodeb
Yn yr adran hon rydych wedi dysgu darllen:
- graddfeydd mesur sy’n defnyddio cyfyngau gwahanol
- graddfeydd ar offer mesur gwahanol
- graddfeydd trosi.