Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 2
Mathemateg bob dydd 2

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

7 Crynodeb Sesiwn 2

Rydych yn awr wedi cwblhau Sesiwn 2, ‘Unedau mesur’. Os ydych wedi nodi unrhyw feysydd mae angen ichi weithio arnynt, gwnewch yn siŵr eich bod yn cyfeirio’n ôl at yr adran hon o’r cwrs ac yn rhoi cynnig arall ar y gweithgareddau.

Erbyn hyn dylech chi fod yn gallu:

  • deall bod yna unedau gwahanol sy’n cael eu defnyddio i fesur a sut i ddewis yr uned briodol
  • trosi rhwng mesuriadau yn yr un system (e.e. gramau a chilogramau) a’r rheiny mewn systemau gwahanol (e.e. litrau a galwyni)
  • defnyddio cyfraddau cyfnewid i drosi mathau o arian cyfred
  • gweithio gydag amser ac amserlenni
  • gweithio allan cyflymder cyfartalog taith gan ddefnyddio fformiwla
  • trosi mesuriadau tymheredd rhwng Celsius (°C) a Fahrenheit (°F)
  • darllen graddfeydd ar gyfarpar mesur.

Bydd yr holl sgiliau a restrwyd uchod yn eich helpu gyda thasgau mewn bywyd pob dydd, fel mesur ar gyfer dodrefn newydd neu ail-ddylunio ystafell neu ardd. Mae’r rhain yn sgiliau hanfodol a fydd yn eich helpu i gamu ymlaen yn eich gwaith a’ch addysg.

Erbyn hyn rydych yn barod i symud ymlaen at Sesiwn 3, ‘Siapiau a Gofod’. [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] .