Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 2
Mathemateg bob dydd 2

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1.1 Perimedr siapiau syml

Described image
Ffigur 3 Canfod perimedr siapiau syml

Er mwyn gweithio allan perimedr y siapiau uchod, y cwbl mae angen ichi ei wneud yw adio cyfanswm hyd pob un o’r ochrau.

  • Petryal: 10 + 10 + 6 + 6 = 32 cm.

  • Triongl: 12 + 12 + 17 = 41 cm.

  • Trapesiwm: 10 + 12 + 10 + 18 = 50 cm.

Pan rowch eich ateb, gwnewch yn siŵr eich bod yn ysgrifennu’r unedau mewn cm, m, km ac ati. Un peth pwysig arall i’w nodi, cyn ichi weithio allan perimedr unrhyw siâp, yw bod yn rhaid ichi wneud yn siŵr y rhoddir yr holl fesuriadau yn yr un unedau. Er enghraifft, os rhoddir dau hyd mewn cm ac un mewn mm, rhaid ichi eu trosi i gyd i’r un uned cyn ichi weithio allan y cyfanswm. Nid oes ots fel arfer pa fesuriad y dewiswch ei drosi ond mae’n ddoeth gwirio’r cwestiwn yn gyntaf oherwydd weithiau efallai y gofynnir ichi roi’ch ateb mewn uned benodol.

Gweithgaredd 1: Canfod y perimedr

Gweithiwch allan y perimedr i bob un o’r siapiau isod.

Cofiwch roi unedau yn eich ateb a gwirio bod yr holl fesuriadau yn yr un unedau cyn ichi ddechrau adio. Gwnewch eich cyfrifiadau heb ddefnyddio cyfrifiannell. Cofiwch wirio’ch atebion yn erbyn ein hatebion ni.

  1. Described image
    Ffigur 4 Cyfrifo’r perimedr – Cwestiwn 1
  2. Described image
    Ffigur 5 Cyfrifo’r perimedr – Cwestiwn 2
  3. Described image
    Ffigur 6 Cyfrifo’r perimedr – Cwestiwn 3

Ateb

  1. 24 + 18 + 24 + 18 = 84 m.
  2. Os ydych wedi gweithio mewn cm:

    • 1.2 m = 120 cm.

      Felly, y perimedr yw 120 + 120 + 90 = 330 cm.

    Os ydych wedi gweithio mewn m:

    • 90 cm = 0.9 m.

      Felly, y perimedr yw 0.9 + 1.2 + 1.2 = 3.3 m.

  3. 50 mm = 5 cm, 62 mm = 6.2 cm.

    Felly, y perimedr yw 24 + 5 + 10 + 6 + 6.2 + 20 = 71.2 cm.

Gobeithio eich bod wedi cael gweithio allan perimedrau’r siapiau hyn yn weddol syml.

Y cam nesaf ymlaen o siapiau fel y rhai rydych newydd weithio gyda nhw, yw canfod perimedr siapiau lle na roddir pob hyd ichi. Gyda siapiau fel petryal neu siapiau rheolaidd fel sgwariau (lle mae pob ochr yr un hyd) mae hon yn broses syml. Fodd bynnag, gyda siâp lle nad yw’r ochrau yr un peth â’i gilydd, mae gennych chi ychydig mwy o waith i’w wneud.