1.3 Cylchedd cylch
Efallai eich bod wedi sylwi bod term newydd wedi sleifio i mewn i deitl yr adran hon. Mae’r term cylchedd yn cyfeirio at y pellter o gwmpas y tu allan i gylch – ei berimedr. Mae perimedr a chylchedd cylch yn golygu’r un peth yn union, ond wrth gyfeirio at gylchoedd fel arfer byddech yn defnyddio’r term cylchedd yn hytrach na pherimedr.

Transcript
Cylchedd cylch yw’r pellter o gwmpas ei ymyl. Hynny yw, ei berimedr. Cyn dysgu sut i weithio allan cylchedd cylch, edrychwch ar y ddau derm allweddol hyn: diamedr a radiws. Radiws, neu r, yw’r pellter o ganol y cylch i’r ymyl. Diamedr, neu d, yw’r pellter o’r naill ochr o’r cylch i’r llall, gan fynd trwy ganol y cylch.
Gallwch weld bod y diamedr bob amser yn ddwbl y radiws.Os ydych chi’n gwybod naill ai’r radiws neu’r diamedr, gallwch weithio allan y llall bob amser. A gallwch hefyd weithio allan y cylchedd. Dyma’r fformiwla sylfaenol mae arnoch ei hangen i weithio allan cylchedd cylch. Cylchedd = pi x diamedr. Gellir hefyd ysgrifennu hyn fel C = pi x d, neu pi d.
Mae Pi, neu'r symbol hwn (sef y llythyren Roeg a ddefnyddir i’w gynrychioli), yn rhif cyson sydd â gwerth o gwmpas 3.142. Mae’n rhif sy’n mynd ymlaen am byth, felly rydych chi’n tueddu i’w dalfyrru i rif haws ei drin, sef 3.14 neu 3.142. Mewn termau technegol, pi yw’r rhif a gewch o rannu cylchedd cylch â’i ddiamedr, ac mae yr un peth i bob cylch.
Dewch inni edrych ar enghraifft o gyfrifo cylchedd. Mae gan y cylch hwn ddiamedr o 5 centimetr. Gallwch roi hyn i mewn i’r fformiwla, felly fe gewch C = pi x 5. Chiliwch am yr allweddell pi ar eich cyfrifiannell, neu gallwch ddefnyddio’r fersiwn wedi’i dalfyrru, 3.142. Felly mae’r cylchedd, C = 3.142 x 5, yn hafal i 15.71 centimetr.
Dyma enghraifft arall, ond y tro hwn mae’r radiws wedi’i labelu. Sut fyddech chi’n cyfrifo’r cylchedd? Cofiwch fod y fformiwla ar gyfer cylchedd yn defnyddio diamedr, felly bydd angen ichi weithio hyn allan yn gyntaf. Gan mai 12 centimetr yw’r radiws, bydd y diamedr dwbl hyn. 12 x 2 = 24 centimetr, felly mae d yn hafal i 24 centimetr. Nawr, gan ddefnyddio’r fformiwla, cylchedd = 3.142 x 24, sy’n hafal i 75.408.
Nawr, rhowch gynnig ar yr enghreifftiau yn y gweithgaredd nesaf.
Gweithgaredd 3: Canfod cylchedd
Rydych chi wedi gwneud teisen ac eisiau ei haddurno â rhuban.
15 cm yw diamedr y deisen. Mae gennych ddarn o ruban sy’n 0.5 m o hyd. Fydd gennych chi ddigon o ruban i fynd o gwmpas y tu allan i’r deisen?
Ffigur 11 Teisen siocled gronYn ddiweddar rydych wedi gosod pwll yn eich gardd ac rydych yn ystyried rhoi ffens o’i gwmpas er diogelwch. 7.4 m yw radiws y pwll.
Pa hyd o ffens fyddai arnoch ei angen i ffitio o gwmpas hyd llawn y pwll? Talgrynnwch eich ateb i fyny i’r metr llawn nesaf.
Ffigur 12 Pwll crwn mewn gardd
Ateb
d = 15 cm
Gan ddefnyddio’r fformiwla C = πd
- C = 3.142 × 15
- C = 47.13 cm
Gan fod arnoch angen 47.13 cm ac mae gennych ruban sy’n 0.5 m (50 cm) o hyd, oes, mae gennych ddigon o ruban i fynd o amgylch y gacen.
Radiws = 7.4 m felly’r diamedr yw 7.4 × 2 = 14.8 m
Gan ddefnyddio’r fformiwla C = πd
C = 3.142 × 14.8
C = 46.5016 m sy’n 47 m i’r metr llawn nesaf.
Nawr dylech deimlo’n hyderus wrth ganfod perimedr pob math o siapiau, gan gynnwys cylchoedd. Drwy gwblhau Gweithgaredd 3, rydych hefyd wedi atgoffa’ch hun ynghylch defnyddio fformiwlâu a thalgrynnu.
Mae’r rhan nesaf o’r adran hon yn edrych ar ganfod arwynebedd (gofod tu mewn) siâp neu ofod. Fel y dywedwyd o’r blaen, mae hyn yn anhygoel o ddefnyddiol mewn sefyllfaoedd pob dydd fel gweithio allan faint o garped neu dyweirch i’w prynu, faint o roliau o bapur wal mae arnoch eu hangen neu faint o duniau o baent mae arnoch eu hangen i roi dwy got ar y wal.
Crynodeb
Yn yr adran hon rydych wedi dysgu:
mai’r pellter o gwmpas y tu allan i ofod neu siâp yw perimedr
sut i ganfod perimedr siapiau syml a mwy cymhleth
sut i ddefnyddio’r fformiwla ar gyfer canfod cylchedd cylch.