Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 2
Mathemateg bob dydd 2

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

5.1 Dull a phroblemau lluniadau wrth raddfa

Yn gyntaf gwyliwch y fideo enghreifftiol lluniadau wrth raddfa

Download this video clip.Video player: s3_5.1_scale.mp4
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
 
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Crynodeb o’r dull

Cofiwch os rhoddir mesuriad y lluniad wrth raddfa ichi a gofynnir ichi weithio allan y maint mewn bywyd go iawn, mae angen ichi luosi.

Os rhoddir y maint mewn bywyd go iawn ichi a gofynnir ichi weithio allan mesuriad y lluniad, mae angen ichi rannu.

Enghraifft 1: Cynllun ystafell

Mae Rhodri wedi lluniadu diagram wrth raddfa o’i ystafell fyw. 1:20 yw’r raddfa mae wedi’i defnyddio.

Ar ei ddiagram mae ei ystafell fyw 30 cm o hyd a 20 cm o led. Beth yw gwir ddimensiynau ei ystafell fyw?

Mae angen ichi weithio allan yr hyd a’r lled ar wahân.

Hyd

1:20 yw’r raddfa mae wedi’i defnyddio, sy’n golygu bod popeth 20 gwaith yn fwy mewn bywyd go iawn nag ar ei ddiagram. Rydych chi’n gwybod mesuriad y lluniad (30 cm) felly mae angen ichi luosi ag 20 i ganfod gwir hyd yr ystafell:

  • 30 cm × 20 = 600 cm

Mae’n syniad da mynegi’r gwir fesuriad mewn metrau:

  • 600 cm = 6 m

Lled

Mae angen ichi ddefnyddio’r un raddfa sef 1:20. Os mai 20 cm yw lled yr ystafell fyw ar y lluniad, yna bydd 20 gwaith yn fwy mewn bywyd go iawn:

  • 20 cm × 20 = 400 cm (400 cm = 4 m)

Felly mewn bywyd go iawn mae ystafell fyw Rhodri yn mesur 6 m wrth 4 m.

Nawr rhowch gynnig ar ddatrys y problemau hyn sy’n ymwneud â graddfa. Gwnewch y cyfrifiadau heb gyfrifiannell. Gallwch ail-wirio gyda chyfrifiannell os oes angen a chofiwch wirio’ch atebion yn erbyn ein hatebion ni.

Gweithgaredd 10: Problemau graddfa

  1. Mae lluniad wrth raddfa wedi cael ei luniadu isod o sied mae cynllunydd gerddi eisiau ei hadeiladu. 1:25 yw’r raddfa a ddefnyddiwyd ar gyfer y lluniad.

    Mae’r darn o dir y caiff y sied ei hadeiladu arno yn betryal sy’n mesur 5.1 m wrth 4 m. Fydd y sied yn ffitio ar y lle sydd wedi’i neilltuo iddi?

    Described image
    Ffigur 51 Cyfrifo graddfa 1

Ateb

  1. Rydych chi’n gwybod mai 1:25 yw’r raddfa, felly mae 1 cm ar y diagram yn cynrychioli 25 cm mewn bywyd go iawn. Rhoddwyd y mesuriadau ar y diagram ichi ac rydych eisiau gweithio allan y gwir fesuriadau felly mae angen ichi luosi.

    Hyd llorweddol:

    • 12.5 × 25 = 312.5 cm = 3.125 m

    Hyd fertigol:

    • 15.2 × 25 = 380 cm = 3.8 m

    Gan fod y ddau hyd ar gyfer y sied yn fyrrach na’r hydoedd a roddwyd ar gyfer y darn o dir, rydych chi’n gwybod y bydd y sied yn ffitio.

  1. Mae cynllunydd tirweddau eisiau gosod man gwyllt yn eich gardd. Mae’n gwneud cynllun wrth raddfa o’r man gwyllt:

    Described image
    Ffigur 52 Cyfrifo graddfa 2

    Beth yw hyd ochr hiraf y man gwyllt mewn bywyd go iawn mewn metrau?

Ateb

  1. 9 cm yw’r hyd ar y lluniad, ac 1:50 yw’r raddfa. Mae hyn yn golygu bod 1 cm ar y lluniad yn gyfwerth â 50 cm mewn bywyd go iawn. Felly i ganfod beth yw 9 cm mewn bywyd go iawn, mae angen ichi ei luosi â 50:

    • 9 × 50 = 450 cm

    Mae’r cwestiwn yn gofyn am yr hyd mewn metrau, felly mae angen ichi drosi centimetrau i fetrau:

    • 450 ÷ 100 = 4.5 m

    4.5 m fydd gwir hyd y man gwyllt.

  1. Dyma luniad wrth raddfa sy’n dangos un man parcio i bobl anabl ym maes pacio archfarchnad. Mae’r archfarchnad yn bwriadu ychwanegu dau fan parcio arall i bobl anabl y naill ochr a’r llall i’r un presennol.

    Described image
    Ffigur 53 Cyfrifo graddfa 3

    Beth fydd cyfanswm gwir led y tri man parcio i bobl anabl mewn metrau?

Ateb

  1. Mae angen ichi ganfod lled y tri man parcio i bobl anabl. 2 cm yw lled un man parcio ar y lluniad wrth raddfa, felly yn gyntaf mae angen ichi luosi hyn â 3:

    • 2 × 3 = 6 cm

    1:125 yw’r raddfa. Mae hyn yn golygu bod 1 cm ar y lluniad yn gyfwerth â 125 cm mewn bywyd go iawn. Felly i ganfod beth yw 6 cm mewn bywyd go iawn, mae angen ichi ei luosi â 125:

    • 6 × 125 = 750 cm

    Mae’r cwestiwn yn gofyn am yr hyd mewn metrau, felly mae angen ichi drosi centimetrau i fetrau:

    • 750 ÷ 100 = 7.5 m

    7.5 m fydd gwir led y tri man parcio gyda’i gilydd.

  1. Ar gyfer y cwestiwn hwn bydd arnoch angen ysgrifbin neu bensil, papur a phren mesur.

    Mae gan Jane wely llysiau uchel. Mae’n bwriadu adeiladu llethr yn arwain i fyny at y gwely llysiau. Bydd Jane yn gorchuddio’r llethr â thyweirch.

    Mae’n lluniadu’r braslun hwn o groestoriad y llethr. Y mesuriadau a nodir yw’r gwir fesuriadau.

    Described image
    Ffigur 54 Canfod hyd llethr

    Bydd Jane yn defnyddio diagram wrth raddfa i weithio allan hyd y llethr. Mae eisiau defnyddio graddfa 1:10.

    • a.Beth fydd mesuriadau sail ac uchder y llethr ar ei diagram?

    • b.Lluniadwch ei diagram wrth raddfa gan ddefnyddio’r mesuriadau rydych wedi’u cyfrifo yn rhan (a).

           (i) Beth fydd hyd y llethr ar y diagram?

           (ii) Beth fydd ef mewn bywyd go iawn?

Ateb

  1.  

    • a.1:10 yw’r raddfa ac rydych eisiau gweithio allan y mesuriadau ar gyfer y diagram wrth raddfa, felly mae angen ichi rannu’r mesuriadau bywyd go iawn â 10:

          Sail y gwely = 125 ÷ 10 = 12.5 cm

           Uchder y gwely = 45 ÷ 10 = 4.5 cm

    • b.  (i) Lluniadwch y diagram wrth raddfa gyda’r sail yn mesur 12.5 cm a’r uchder yn mesur 4.5 cm.

      Nawr lluniadwch eich llethr gan gysylltu pwyntiau pen y sail a’r uchder. Os ydych chi’n mesur hyd y llethr gyda phren mesur dylai fesur oddeutu 13.2 cm ar y diagram.

      (ii) I weithio allan hyd y llethr mewn bywyd go iawn, mae angen ichi ddefnyddio’r raddfa 1:10 eto, ond y tro hwn mae angen ichi luosi â 10 i weithio allan gwir hyd y llethr:

           13.2 cm × 10 = 132 cm mewn bywyd go iawn..

      Efallai y bydd eich ateb ychydig yn wahanol i’n hateb ni ond fe ddylai fod o fewn ystod resymol.

Crynodeb

Yn yr adran hon rydych wedi:

  • cymhwyso’ch sgiliau cymarebau i gysyniad cynlluniau a lluniadau wrth raddfa
  • dehongli cynlluniau wrth raddfa.

Da iawn! Nawr rydych wedi cwblhau’r adran hon o’ch cwrs. Nawr rydych chi’n barod i roi prawf ar y wybodaeth a’r sgiliau rydych wedi’u dysgu yn y cwis diwedd sesiwn. Pob lwc!