3.2 Dehongli siartiau bar
Os gwelwch siart bar sy’n dangos gwybodaeth ichi, mae’n ddefnyddiol gwybod sut i’w dehongli. Y peth pwysicaf y mae angen ichi ei ddarllen i ddeall siart bar yn gywir yw’r raddfa ar yr echelin fertigol.
Fel yr ydych yn gwybod o luniadu siartiau bar eich hun, gall y rhifau ar yr echelin fertigol godi mewn camau o unrhyw faint. Felly mae angen ichi weithio allan beth yw gwerth y rhaniadau llai cyn y gallwch ddefnyddio’r wybodaeth. Y ffordd orau ichi ddysgu yw trwy ymarfer edrych ar, a darllen o, siartiau bar gwahanol.
Rhowch gynnig ar y gweithgaredd isod.
Gweithgaredd 4: Dehongli siart bar
P’un oedd y sianel fwyaf poblogaidd?
- a.Ymladd ac Antur
- b.Disney
- c.Teulu
Ateb
- a.Ymladd ac Antur
Tua faint o wylwyr a wyliodd sianel Disney Sky Cinema?
- a.250 o wylwyr
- b.25 000 o wylwyr
- c.250 000 o wylwyr
Ateb
c.250 000 o wylwyr – nodwch fod label yr echelin fertigol yn dweud bod y ffigurau mewn 000 (miloedd) sy’n golygu bod y raddfa’n codi mewn cyfyngau o 20 000. Mae hyn yn golygu bod bar Disney yn mynd i fyny at 250 000.
Tua faint yn fwy o wylwyr a wyliodd sianel Ffuglen Wyddonol ac Arswyd Sky Cinema na sianel Drama a Rhamant Sky Cinema?
a.100 000
b.80 000
c.100
Ateb
a.100 000 – cafodd y sianel Ffuglen Wyddonol ac Arswyd tua 175 000 o wylwyr a chafodd sianel Drama a Rhamant tua 75 000 o wylwyr, gan wneud gwahaniaeth o 100 000 o wylwyr.
Gweithgaredd 5: Dehongli siart bar cymharol
- Pa awdurdod lleol a welodd y cynnydd mwyaf mewn prisiau tai cyfartalog rhwng 2017 a 2018?
Ateb
- Ynys Môn
P’un o’r canlynol yw’r amcangyfrif gorau o’r gwahaniaeth rhwng prisiau tai cyfartalog yng Nghaerdydd ac yn Abertawe yn 2018?
- a.£50 000
- b.£60 000
- c.£120 000
Ateb
- b.£60 000 - nodwch fod y raddfa’n codi mewn cyfyngau o £10 000. Tua £200 000 oedd pris tŷ cyfartalog yng Nghaerdydd yn 2018, o gymharu â phris tŷ cyfartalog yn Abertawe o tua £140 000, sy’n gwneud gwahaniaeth o £60 000.
Gweithgaredd 6: Dehongli siart bar cydrannol
- Pa gwrs a gafodd y nifer leiaf o gofrestriadau rhan amser?
Ateb
- Teithio a Thwristiaeth
- Pa gwrs a gafodd mwy o gofrestriadau rhan amser nag amser llawn?
Ateb
- Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Faint o gofrestriadau amser llawn a gafwyd i’r cwrs Gwallt a Harddwch?
Ateb
49.
Nodwch fod y raddfa’n codi fesul 2 a bod cydran amser llawn bar Gwallt a Harddwch yn cyrraedd hanner ffordd rhwng 48 a 50.
- Faint o gofrestriadau rhan amser a gafodd y cwrs Gweinyddu Busnes?
Ateb
- 7
- Tua faint o gofrestriadau cyrsiau a gafwyd i gyd?
Ateb
197 – mae angen ichi gyfrif cyfanswm cofrestriadau’r holl gyrsiau ar wahân ac yna eu hadio at ei gilydd:
Peintio ac Addurno = 20
Iechyd a Gofal Cymdeithasol = 40
Teithio a Thwristiaeth = 12
Gweinyddu Busnes = 36
Gwaith Coed = 24
Gwallt a Harddwch = 65
20 + 40 + 12 + 36 + 24 + 65 = 197
Nawr dylech deimlo’n hyderus i luniadu ac i ddehongli siartiau bar, felly mae’n bryd symud ymlaen i edrych ar fath arall o siart sef siartiau cylch.
Crynodeb
Yn yr adran hon, rydych wedi dysgu:
- am wahanol nodweddion siart bar
- sut i ddefnyddio siartiau bar sengl a chymharol i gyflwyno data
- sut i ddehongli’r wybodaeth a ddangosir ar y gwahanol fathau o siartiau bar.