4 Siartiau cylch
Siart cylch yw’r ffordd orau o ddangos y cyfran (neu ffracsiwn) o’r data sydd ym mhob categori. Mae’n hawdd iawn gweld darnau mwyaf a lleiaf y siart yn weledol, a sut maen nhw’n cymharu â’r darnau eraill.
Bydd yr adran hon yn eich helpu chi i ddeall pryd y dylech ddefnyddio siart cylch yn hytrach na dull arall o gyflwyno data. Yn rhan gyntaf yr adran, byddwch yn dysgu sut i luniadu siart cylch ac yna’n symud ymlaen i’w dehongli.
Yn y rhan gyntaf o’r adran hon, byddwch yn dysgu sut i luniadu siartiau cylch ac yna’n symud ymlaen i’w dehongli.