4.1 Lluniadu siartiau cylch
Y ffordd orau o ddeall y camau mae eu hangen i luniadu siart cylch yw gwylio’r enghraifft wedi’i chyfrifo yn y fideo isod.

Transcript
Pan rydych chi’n lluniadu siart cylch, rydych chi’n rhannu cylch yn nifer o wahanol rannau o feintiau gwahanol, gan ddibynnu ar y data a roddwyd ichi. Mae gan gylch cyfan gyfanswm o 360 o raddau. Mae gan chwarter cylch 90 o raddau, ac mae gan hanner cylch 180 o raddau.
Dewch inni greu siart cylch i ddangos ichi’r camau i’w dilyn wrth luniadu un.Mae’r tabl hwn yn dangos gwybodaeth am nifer y cleientiaid mewn salon harddwch a pha driniaethau gawson nhw. Os ydych chi eisiau lluniadu siart cylch, mae angen ichi wybod faint o raddau o’r cylch i’w dyrannu i bob triniaeth.
I wneud hyn, mae angen ichi rannu 360 o raddau â nifer y cleientiaid. Mae hyn oherwydd eich bod eisiau rhannu’r cylch cyfan, 360 o raddau, yn gyfartal rhwng pob un o’r cleientiaid. Caiff pob person ei gynrychioli gan nifer benodol o raddau.
Yn yr enghraifft hon, cyfanswm nifer y cleientiaid yw 24 + 16 + 15 + 5, sy’n hafal i 60. Mae 360 wedi’i rannu â 60 yn hafal i 6, felly mae pob cleient yn cael chwe gradd o’r cylch.
Nawr eich bod yn gwybod faint o raddau mae pob math o driniaeth yn werth, gallwch luniadu’r siart cylch. Yn gyntaf, mae angen ichi luniadu cylch. Nesaf, tynnwch linell o ganol y cylch i dop y cylch. O’r llinell hon y byddwch yn dechrau lluniadu’ch darnau o’r cylch. Nawr, defnyddiwch onglydd i fesur yr onglau cywir a lluniadwch y siart cylch.
Dylai edrych yn debyg i hyn. Nawr, rhowch gynnig ar luniadu siart cylch drosoch eich hun.
Nawr rhowch gynnig ar luniadu siart cylch drosoch eich hun.
Gweithgaredd 7: Lluniadu siart cylch
Mae canolfan hamdden eisiau cymharu’r gweithgareddau mae cwsmeriaid yn eu dewis pan fyddan nhw’n ymweld â’r ganolfan. Dangosir y wybodaeth yn y tabl isod. Lluniadwch siart cylch cywir i ddangos y wybodaeth hon. Cewch luniadu’r siart cylch â llaw neu ddefnyddio meddalwedd cyfrifiadurol i’w greu.
Gweithgaredd | Nifer y cwsmeriaid |
---|---|
Nofio | 26 |
Campfa | 17 |
Dosbarth ymarfer corff | 20 |
Sawna | 9 |
Ateb
Yn gyntaf, gweithiwch allan cyfanswm nifer y cwsmeriaid:
26 + 17 + 20 + 9 = 72
Nawr gweithiwch allan nifer y graddau sy’n cynrychioli cwsmer:
360˚ ÷ 72 = 5˚ per customer
Gweithgaredd | Nifer y cwsmeriaid | Nifer y graddau |
---|---|---|
Nofio | 26 | 26 × 5 = 130˚ |
Campfa | 17 | 17 × 5 = 85˚ |
Dosbarth ymarfer corff | 20 | 20 × 5 = 100˚ |
Sawna | 9 | 9 × 5 = 45˚ |
Nawr defnyddiwch y wybodaeth hon i luniadu eich siart cylch. Dylai edrych rhywbeth fel hyn:
- Mae’r tabl isod yn dangos gwerthiannau cwmni Brechdanau Bethan mewn blwyddyn. Lluniadwch siart cylch i ddangos y data. Cewch luniadu’r siart cylch â llaw neu ddefnyddio meddalwedd cyfrifiadurol i’w chreu.
Math o frechdan | Gwerthiannau (000) |
---|---|
Caws a winwns/nionyn | 20 |
Wy a berwr | 17 |
Corgimwch | 11 |
Cyw iâr y Coroni | 12 |
Tiwna â mayonnaise | 9 |
Ham | 8 |
Cig eidion a thomato | 13 |
Ateb
Yn gyntaf, gweithiwch allan cyfanswm nifer y gwerthiannau brechdanau:
20 + 17 + 11 + 12 + 9 + 8 + 13 = 90 (000s)
Nawr gweithiwch allan nifer y graddau sy’n cynrychioli pob gwerthiant:
360 ÷ 90 = 4˚ per sale
Math o frechdan | Gwerthiannau (000) | Nifer y graddau |
---|---|---|
Caws a winwns/nionyn | 20 | 20 × 4 = 80° |
Wy a berwr | 17 | 17 × 4 = 68° |
Corgimwch | 11 | 11 × 4 = 44° |
Cyw iâr y Coroni | 12 | 12 × 4 = 48° |
Tiwna a mayonnaise | 9 | 9 × 4 = 36° |
Ham | 8 | 8 × 4 = 32° |
Cig eidion a thomato | 13 | 13 × 4 = 52° |
Nawr defnyddiwch y wybodaeth hon i luniadu eich siart cylch. Dylai edrych rhywbeth fel yr un isod.
Nawr eich bod yn gallu lluniadu siart cylch yn gywir, mae’n bryd edrych ar sut i’w ddehongli. Ni fyddwch yn gweld y gwir ddata bob tro. Efallai mai’r cyfan a roddir ichi yw’r cyfanswm a gynrychiolir gan y siart neu ddarn o’r siart, a’r onglau ar y siart cylch ei hun. Mae’n ddefnyddiol gwybod sut i ddefnyddio’ch sgiliau mathemateg i weithio allan y gwir ffigurau.
Dyma nodyn atgoffa o raddau cylch, a fydd yn ddefnyddiol pan fyddwch yn darllen data o siartiau cylch.