4.2 Dehongli siartiau cylch
Dychmygwch eich bod wedi cael y siart cylch isod. Mae’r siart yn dangos oedrannau myfyrwyr sy’n cystadlu mewn digwyddiad athletau.
Mae dau fath posibl o wybodaeth y gallech eu cael. Naill ai cyfanswm nifer y myfyrwyr oedd yn y digwyddiad, neu nifer y myfyrwyr yn un o’r categorïau oedran.
Enghraifft: Darllen siart cylch 1
Dewch inni ddweud y cawsoch wybod bod 72 o bobl wedi mynd i’r gystadleuaeth. Gan eich bod yn gwybod bod 360˚ wedi’u rhannu’n gyfartal rhwng y 72 o bobl, rydych yn gwneud 360 ÷ 72 = 5˚ y person.
Unwaith y byddwch yn gwybod hyn, os oeddech eisiau gwybod faint o fyfyrwyr 16 oed a gymerodd ran, byddech yn edrych ar nifer y graddau ar y siart ar gyfer y rhai 16 oed, sef 60˚ yn yr enghraifft hon.
Yna rydych yn gwneud 60 ÷ 5 = 12 o fyfyrwyr.
Os oeddech eisiau gweithio allan nifer y rhai 15 oed, byddai angen ichi weithio allan yr ongl sydd ar goll yn gyntaf. Rydych yn gwybod y bydd yr onglau’n adio i fyny i 360˚, felly gwnewch:
360 – 115 – 90 – 60 = 95˚
Nawr gwnewch yr un peth ag o’r blaen sef 95 ÷ 5 = 19 o fyfyrwyr 15 oed.
Enghraifft: Darllen siart cylch 2
Gan ddefnyddio’r un siart cylch, dewch inni ddweud mai’r cyfan y cawsoch wybod oedd bod 23 o fyfyrwyr 14 oed wedi cymryd rhan.
Gallwch weld mai 115˚ yw’r ongl ar gyfer y rhai 14 oed a chawsoch wybod bod hyn yn cynrychioli 23 o fyfyrwyr.
I ganfod faint o raddau a roddir i bob myfyriwr, rydych yn gwneud 115 ÷ 23 = 5˚ y myfyriwr.
Pan fyddwch yn gwybod hyn, gallwch ganfod faint o fyfyrwyr a gynrychiolir gan bob rhan arall yn yr un ffordd ag y gwnaethom yn enghraifft 1. Er enghraifft, mae gan y rhai 13 oed ongl o 90˚.
I ganfod faint o fyfyrwyr sy’n 13 oed, rydych yn gwneud 90 ÷ 5 = 18 o fyfyrwyr.
Mae siartiau cylch yn debyg iawn i gymarebau. Mewn cwestiynau cymhareb, rydych yn ceisio canfod gwerth 1 rhan; mewn cwestiynau siart cylch, rydych yn ceisio canfod faint o raddau sy’n cynrychioli 1 person (neu beth bynnag mae’r siart cylch yn ei gynrychioli).
Yn ogystal â’r cysylltiad agos â chymhareb, gyda siartiau cylch mae angen defnyddio’ch sgiliau ffracsiynau hefyd. Er enghraifft, os gofynnwyd ichi ba ffracsiwn o’r myfyrwyr oedd yn 16 oed, gallwch ei ddangos fel , gan fod y rhai 16 oed yn 60 o raddau allan o’r cyfanswm o 360 o raddau.
Fodd bynnag, gan ddefnyddio’ch sgiliau ffracsiynau, gellir symleiddio’r ffracsiwn i .
Mae’n bryd ichi ymarfer eich sgiliau dehongli siartiau cylch. Rhowch gynnig ar y gweithgaredd isod ac yna gwirio’ch atebion yn erbyn yr adborth a roddwyd.
Gweithgaredd 8: Dehongli siartiau cylch
Mae’r siart cylch isod yn dangos faint o amser a dreuliodd garddwr yn gwneud gweithgareddau amrywiol dros gyfnod o fis.
- a.Pa ffracsiwn o’r amser a dreuliwyd yn plannu? Rhowch eich ateb yn ei ffurf symlaf.
- b.Treuliwyd 5 awr yn palu. Faint o amser a dreuliwyd yn torri’r glaswellt?
Ateb
a.Plannu = = yn ei ffurf symlaf.
b.100˚ yw’r palu, ac rydych yn gwybod bod hynny’n 5 awr.
100˚ ÷ 5 = 20˚ ar gyfer pob awr.
Gan fod gan dorri’r glaswellt ongl o 40˚, rydych yn gwneud 40 ÷ 20 = 2 awr yn torri’r glaswellt.
Gofynnwyd i 120 o oedolion oedd yn cymryd rhan mewn cwrs ar-lein a oedden nhw’n teimlo bod digon o weithgareddau iddynt eu cwblhau drwy gydol y cwrs.
Dangosir y canlyniadau yn y siart cylch isod.
- a.pa ffracsiwn o’r oedolion oedd yn meddwl bod gormod o weithgareddau? Rhowch eich ateb yn ei ffurf symlaf.
- b.faint o oedolion oedd yn meddwl bod digon o weithgareddau?
Ateb
a.Gormod = = yn ei ffurf symlaf.
b.Rydych yn gwybod bod 120 o oedolion wedi cymryd rhan yn yr arolwg. I ganfod faint o raddau sy’n cynrychioli pob oedolyn, rydych yn gwneud 360 ÷ 120 = 3 gradd y person.
Nesaf mae angen ichi wybod yr ongl ar gyfer y rhai a ddywedodd bod digon o weithgareddau. Ar gyfer hyn, rydych yn gwneud:
360 – 105 – 60 – 45 = 150˚
Nawr eich bod yn gwybod hyn, gallwch wneud:
150 ÷ 3 = 50 o oedolion oedd yn meddwl bod digon o weithgareddau.
Da iawn! Nawr gallwch luniadu a dehongli siartiau bar a siartiau cylch. Mae’r ddau yn ffyrdd da o gynrychioli data arwahanol. Yn y rhan nesaf o’r sesiwn hwn, byddwch yn dysgu sut i luniadu a dehongli graffiau llinell.
Crynodeb
Yn yr adran hon, rydych wedi dysgu:
- pa fathau o wybodaeth y gellir eu cynrychioli’n effeithiol ar siart cylch
- sut i ddefnyddio a dehongli siart cylch
- sut i luniadu siart cylch cywir pan roddir set ddata ichi.