5 Graffiau llinell
Mae graffiau llinell yn ffordd ddefnyddiol iawn o nodi patrymau neu dueddiadau dros amser. Byddwch wedi edrych ar sut i blotio a dehongli graffiau llinell sengl o ffynonellau unigol o ddata yn Mathemateg Pob Dydd 1. Nawr byddwch yn edrych ar graffiau llinell sy’n dangos canlyniadau dwy ffynhonnell ddata.
Mae’r enghraifft isod yn dangos y gyfradd gyfnewid fisol ar gyfer £1 yn erbyn doler UDA a’r ewro. Gallwch weld yn glir sut oedd gwerth y bunt yn disgyn yn erbyn yr ewro a doler UDA hyd at fis Hydref 2016.
Nawr eich bod yn deall pa mor ddefnyddiol yw graffiau llinell a sut y gellir eu defnyddio, nesaf byddwch yn dysgu sut i’w lluniadu a’u dehongli.